Salm 140:6-8
Salm 140:6-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dwedais wrth yr ARGLWYDD: “Ti ydy fy Nuw i.” Gwranda, O ARGLWYDD, wrth i mi erfyn am drugaredd! O ARGLWYDD, Meistr, ti ydy’r un cryf sy’n achub; ti oedd yn gysgod i mi yn y frwydr. O ARGLWYDD, paid gadael i’r rhai drwg gael eu ffordd! Paid gadael i’w cynllwyn nhw lwyddo, rhag iddyn nhw ymffrostio. Saib
Salm 140:6-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedais wrth yr ARGLWYDD, “Fy Nuw wyt ti”; gwrando, O ARGLWYDD, ar lef fy ngweddi. O ARGLWYDD Dduw, fy iachawdwriaeth gadarn, cuddiaist fy mhen yn nydd brwydr. O ARGLWYDD, paid â rhoi eu dymuniad i'r drygionus, paid â llwyddo eu bwriad. Sela
Salm 140:6-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Dywedais wrth yr ARGLWYDD, Fy NUW ydwyt ti: clyw, O ARGLWYDD, lef fy ngweddïau. ARGLWYDD DDUW, nerth fy iachawdwriaeth, gorchuddiaist fy mhen yn nydd brwydr. Na chaniatâ, ARGLWYDD, ddymuniad yr annuwiol: na lwydda ei ddrwg feddwl; rhag eu balchïo hwynt. Sela.