Salm 140:1-13
Salm 140:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Achub fi, O ARGLWYDD, rhag pobl ddrwg. Cadw fi’n saff rhag y dynion treisiol sy’n cynllwynio i wneud drwg i mi, ac yn ymosod a chreu helynt. Mae ganddyn nhw dafodau miniog; maen nhw’n brathu fel nadroedd, ac mae gwenwyn neidr dan eu gwefusau. Saib O ARGLWYDD, paid gadael i bobl ddrwg gael gafael ynof fi! Cadw fi’n saff rhag y dynion treisiol sydd eisiau fy maglu i. Mae dynion balch yn cuddio trap i mi; pobl lygredig yn lledu rhwydau i mi; ac yn gosod maglau ar fy llwybr. Saib Dwedais wrth yr ARGLWYDD: “Ti ydy fy Nuw i.” Gwranda, O ARGLWYDD, wrth i mi erfyn am drugaredd! O ARGLWYDD, Meistr, ti ydy’r un cryf sy’n achub; ti oedd yn gysgod i mi yn y frwydr. O ARGLWYDD, paid gadael i’r rhai drwg gael eu ffordd! Paid gadael i’w cynllwyn nhw lwyddo, rhag iddyn nhw ymffrostio. Saib Ac am y rhai sydd o’m cwmpas i – boed i’r pethau drwg maen nhw wedi eu dweud eu llethu! Boed i farwor tanllyd ddisgyn arnyn nhw! Boed iddyn nhw gael eu taflu i bydewau, byth i godi eto! Paid gadael i enllibwyr aros yn y tir. Gad i ddrygioni’r dynion treisgar eu hela nhw a’u bwrw nhw i lawr. Dw i’n gwybod y bydd yr ARGLWYDD yn gweithredu ar ran y rhai sy’n diodde. Bydd yn sicrhau cyfiawnder i’r rhai mewn angen. Bydd y rhai cyfiawn yn sicr yn moli dy enw di! Bydd y rhai sy’n byw’n gywir yn aros yn dy gwmni di.
Salm 140:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O ARGLWYDD, gwared fi rhag pobl ddrygionus; cadw fi rhag rhai sy'n gorthrymu, rhai sy'n cynllunio drygioni yn eu calon, a phob amser yn codi cythrwfl. Y mae eu tafod yn finiog fel sarff, ac y mae gwenwyn gwiber dan eu gwefusau. Sela O ARGLWYDD, arbed fi rhag dwylo'r drygionus; cadw fi rhag rhai sy'n gorthrymu, rhai sy'n cynllunio i faglu fy nhraed. Bu rhai trahaus yn cuddio magl i mi, a rhai dinistriol yn taenu rhwyd, ac yn gosod maglau ar ymyl y ffordd. Sela Dywedais wrth yr ARGLWYDD, “Fy Nuw wyt ti”; gwrando, O ARGLWYDD, ar lef fy ngweddi. O ARGLWYDD Dduw, fy iachawdwriaeth gadarn, cuddiaist fy mhen yn nydd brwydr. O ARGLWYDD, paid â rhoi eu dymuniad i'r drygionus, paid â llwyddo eu bwriad. Sela Y mae rhai o'm hamgylch yn codi eu pen, ond bydded i ddrygioni eu gwefusau eu llethu. Bydded i farwor tanllyd syrthio arnynt; bwrier hwy i ffosydd dyfnion heb allu codi. Na fydded lle i'r enllibus yn y wlad; bydded i ddrygioni ymlid y gorthrymwr yn ddiarbed. Gwn y gwna'r ARGLWYDD gyfiawnder â'r truan, ac y rhydd farn i'r anghenus. Yn sicr bydd y cyfiawn yn clodfori dy enw; bydd yr uniawn yn byw yn dy bresenoldeb.
Salm 140:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwared fi, O ARGLWYDD, oddi wrth y dyn drwg: cadw fi rhag y gŵr traws: Y rhai sydd yn bwriadu drygioni yn eu calon: ymgasglant beunydd i ryfel. Golymasant eu tafodau fel sarff: gwenwyn asb sydd dan eu gwefusau. Sela. Cadw fi, O ARGLWYDD, rhag dwylo’r annuwiol; cadw fi rhag y gŵr traws: y rhai a fwriadasant fachellu fy nhraed. Y beilchion a guddiasant faglau i mi, ac a estynasant rwyd wrth dannau ar ymyl y llwybrau: gosodasant hoenynnau ar fy medr. Sela. Dywedais wrth yr ARGLWYDD, Fy NUW ydwyt ti: clyw, O ARGLWYDD, lef fy ngweddïau. ARGLWYDD DDUW, nerth fy iachawdwriaeth, gorchuddiaist fy mhen yn nydd brwydr. Na chaniatâ, ARGLWYDD, ddymuniad yr annuwiol: na lwydda ei ddrwg feddwl; rhag eu balchïo hwynt. Sela. Y pennaf o’r rhai a’m hamgylchyno, blinder eu gwefusau a’u gorchuddio. Syrthied marwor arnynt: a bwrier hwynt yn tân; ac mewn ceuffosydd, fel na chyfodant. Na sicrhaer dyn siaradus ar y ddaear: drwg a hela y gŵr traws i’w ddistryw. Gwn y dadlau yr ARGLWYDD ddadl y truan, ac y barna efe y tlodion. Y cyfiawn yn ddiau a glodforant dy enw di: y rhai uniawn a drigant ger dy fron di.