Salm 139:1-4
Salm 139:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O ARGLWYDD, rwyt ti’n fy archwilio i, ac yn gwybod popeth amdana i. Ti’n gwybod pryd dw i’n eistedd ac yn codi; ti’n gwybod beth sydd ar fy meddwl i o bell. Ti’n cadw golwg arna i’n teithio ac yn gorffwys; yn wir, ti’n gwybod am bopeth dw i’n wneud. Ti’n gwybod beth dw i’n mynd i’w ddweud cyn i mi agor fy ngheg, ARGLWYDD.
Salm 139:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
ARGLWYDD, yr wyt wedi fy chwilio a'm hadnabod. Gwyddost ti pa bryd y byddaf yn eistedd ac yn codi; yr wyt wedi deall fy meddwl o bell; yr wyt wedi mesur fy ngherdded a'm gorffwys, ac yr wyt yn gyfarwydd â'm holl ffyrdd. Oherwydd nid oes air ar fy nhafod heb i ti, ARGLWYDD, ei wybod i gyd.
Salm 139:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
ARGLWYDD, chwiliaist, ac adnabuost fi. Ti a adwaenost fy eisteddiad a’m cyfodiad: deelli fy meddwl o bell. Amgylchyni fy llwybr a’m gorweddfa; a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd. Canys nid oes air ar fy nhafod, ond wele, ARGLWYDD, ti a’i gwyddost oll.