Salm 133:1-3
Salm 133:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Mor dda ac mor ddymunol yw i bobl fyw'n gytûn. Y mae fel olew gwerthfawr ar y pen, yn llifo i lawr dros y farf, dros farf Aaron, yn llifo i lawr dros goler ei wisgoedd. Y mae fel gwlith Hermon yn disgyn i lawr ar fryniau Seion. Oherwydd yno y gorchmynnodd yr ARGLWYDD ei fendith, bywyd hyd byth.
Salm 133:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae mor dda, ydy, mae mor hyfryd pan mae pobl Dduw yn eistedd gyda’i gilydd. Mae fel olew persawrus yn llifo i lawr dros y farf – dros farf Aaron ac i lawr dros goler ei fantell. Mae fel gwlith Hermon yn disgyn ar fryniau Seion! Dyna lle mae’r ARGLWYDD wedi gorchymyn i’r fendith fod – bywyd am byth!
Salm 133:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Mor dda ac mor ddymunol yw i bobl fyw'n gytûn. Y mae fel olew gwerthfawr ar y pen, yn llifo i lawr dros y farf, dros farf Aaron, yn llifo i lawr dros goler ei wisgoedd. Y mae fel gwlith Hermon yn disgyn i lawr ar fryniau Seion. Oherwydd yno y gorchmynnodd yr ARGLWYDD ei fendith, bywyd hyd byth.
Salm 133:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Wele mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd! Y mae fel yr ennaint gwerthfawr ar y pen, yn disgyn ar hyd y farf, sef barf Aaron; yr hwn oedd yn disgyn ar hyd ymyl ei wisgoedd ef: Fel gwlith Hermon, ac fel y gwlith yn disgyn ar fynyddoedd Seion: canys yno y gorchmynnodd yr ARGLWYDD y fendith, sef bywyd yn dragywydd.