Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 131:1-2 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Salm 131:1-2 BNET (beibl.net 2015, 2024)

O ARGLWYDD, dw i ddim yn berson balch nac yn edrych i lawr ar bobl eraill. Dw i ddim yn chwilio am enwogrwydd nac yn gwneud pethau sy’n rhy anodd i mi. Dw i wedi dysgu bod yn dawel a diddig, fel plentyn bach yn saff ym mreichiau ei fam. Ydw, dw i’n dawel a bodlon fel plentyn yn cael ei gario.

Salm 131:1-2 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

O ARGLWYDD, nid yw fy nghalon yn drahaus, na'm llygaid yn falch; nid wyf yn ymboeni am bethau rhy fawr, nac am bethau rhy ryfeddol i mi. Ond yr wyf wedi tawelu a distewi fy enaid, fel plentyn ar fron ei fam; fel plentyn y mae fy enaid.

Salm 131:1-2 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

O ARGLWYDD, nid ymfalchïodd fy nghalon, ac nid ymddyrchafodd fy llygaid: ni rodiais chwaith mewn pethau rhy fawr, a rhy uchel i mi. Eithr gosodais a gostegais fy enaid, fel un wedi ei ddiddyfnu oddi wrth ei fam: fy enaid sydd ynof fel un wedi ei ddiddyfnu.