Salm 128:1-6
Salm 128:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r un sy’n parchu’r ARGLWYDD ac yn gwneud beth mae e eisiau, wedi’i fendithio’n fawr. Byddi’n bwyta beth fuost ti’n gweithio mor galed i’w dyfu. Byddi’n cael dy fendithio, a byddi’n llwyddo! Bydd dy wraig fel gwinwydden ffrwythlon yn dy dŷ. Bydd dy feibion o gwmpas dy fwrdd fel blagur ar goeden olewydd. Dyna i ti sut mae’r dyn sy’n parchu’r ARGLWYDD yn cael ei fendithio! Boed i’r ARGLWYDD dy fendithio di o Seion! Cei weld Jerwsalem yn llwyddo am weddill dy fywyd, A byddi’n cael byw i weld dy wyrion. Heddwch i Israel!
Salm 128:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwyn ei fyd pob un sy'n ofni'r ARGLWYDD ac yn rhodio yn ei ffyrdd. Cei fwyta o ffrwyth dy lafur; byddi'n hapus ac yn wyn dy fyd. Bydd dy wraig yng nghanol dy dŷ fel gwinwydden ffrwythlon, a'th blant o amgylch dy fwrdd fel blagur olewydd. Wele, fel hyn y bendithir y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD. Bydded i'r ARGLWYDD dy fendithio o Seion, iti gael gweld llwyddiant Jerwsalem holl ddyddiau dy fywyd, ac iti gael gweld plant dy blant. Bydded heddwch ar Israel!
Salm 128:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwyn ei fyd pob un sydd yn ofni yr ARGLWYDD; yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef. Canys mwynhei lafur dy ddwylo: gwyn dy fyd, a da fydd i ti. Dy wraig fydd fel gwinwydden ffrwythlon ar hyd ystlysau dy dŷ: dy blant fel planhigion olewydd o amgylch dy ford. Wele, fel hyn yn ddiau y bendithir y gŵr a ofno yr ARGLWYDD. Yr ARGLWYDD a’th fendithia allan o Seion; a thi a gei weled daioni Jerwsalem holl ddyddiau dy einioes. A thi a gei weled plant dy blant, a thangnefedd ar Israel.