Salm 120:1-7
Salm 120:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn fy argyfwng dyma fi’n galw ar yr ARGLWYDD ac atebodd fi! “O ARGLWYDD, achub fi rhag gwefusau celwyddog, a thafodau twyllodrus!” Dyma gei di ganddo – ie, dyma fydd dy gosb – ti, dafod twyllodrus: saethau miniog y milwyr wedi’u llunio ar dân golosg! Dw i wedi bod mor ddigalon, yn gorfod byw dros dro yn Meshech, ac aros yng nghanol pebyll Cedar. Dw i wedi cael llond bol ar fyw yng nghanol pobl sy’n casáu heddwch. Dw i’n siarad am heddwch, ac maen nhw eisiau rhyfela!
Salm 120:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder, ac atebodd fi. “O ARGLWYDD, gwared fi rhag genau twyllodrus, a rhag tafod enllibus.” Beth a roddir i ti, a beth yn ychwaneg a wneir, O dafod enllibus? Saethau llymion rhyfelwr, a marwor eirias! Gwae fi fy mod yn ymdeithio yn Mesech, ac yn byw ymysg pebyll Cedar. Yn rhy hir y bûm yn byw gyda'r rhai sy'n casáu heddwch. Yr wyf fi am heddwch, ond pan soniaf am hynny, y maent hwy am ryfel.
Salm 120:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ar yr ARGLWYDD y gwaeddais yn fy nghyfyngder, ac efe a’m gwrandawodd i. ARGLWYDD, gwared fy enaid oddi wrth wefusau celwyddog, ac oddi wrth dafod twyllodrus. Beth a roddir i ti? neu pa beth a wneir i ti, dydi dafod twyllodrus? Llymion saethau cawr, ynghyd â marwor meryw. Gwae fi, fy mod yn preswylio ym Mesech, yn cyfanheddu ym mhebyll Cedar. Hir y trigodd fy enaid gyda’r hwn oedd yn casáu tangnefedd. Heddychol ydwyf fi: ond pan lefarwyf, y maent yn barod i ryfel.