Salm 112:1-3
Salm 112:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Haleliwia! Mae bendith fawr i’r un sy’n parchu’r ARGLWYDD ac wrth ei fodd yn gwneud beth mae’n ei ddweud. Bydd ei ddisgynyddion yn llwyddiannus, cenhedlaeth o bobl dduwiol yn cael eu bendithio. Bydd e’n gyfoethog, a bob amser yn byw’n gywir.
Rhanna
Darllen Salm 112Salm 112:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Molwch yr ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD, ac yn ymhyfrydu'n llwyr yn ei orchmynion. Bydd ei ddisgynyddion yn gedyrn ar y ddaear, yn genhedlaeth uniawn wedi ei bendithio. Bydd golud a chyfoeth yn ei dŷ, a bydd ei gyfiawnder yn para am byth.
Rhanna
Darllen Salm 112Salm 112:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Molwch yr ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y gŵr a ofna yr ARGLWYDD, ac sydd yn hoffi ei orchmynion ef yn ddirfawr. Ei had fydd gadarn ar y ddaear: cenhedlaeth y rhai uniawn a fendithir. Golud a chyfoeth fydd yn ei dŷ ef: a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth.
Rhanna
Darllen Salm 112