Salm 11:1-7
Salm 11:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i wedi troi at yr ARGLWYDD i’m cadw’n saff. Felly sut allwch chi ddweud wrtho i: “Dianc i’r mynyddoedd fel aderyn!”? “Gwylia dy hun! Mae’r rhai drwg yn plygu eu bwa, ac yn gosod saeth ar y llinyn i saethu o’r cysgodion at y rhai sy’n byw’n gywir!” Pan mae’r sylfeini wedi chwalu, beth all y cyfiawn ei gyflawni? Mae’r ARGLWYDD yn ei balas sanctaidd! Ie, yr ARGLWYDD – mae ei orsedd yn y nefoedd! Mae e’n gweld y cwbl! Mae’n edrych yn fanwl ar y ddynoliaeth. Mae’r ARGLWYDD yn gwylio y rhai cyfiawn, ond mae’n casáu y rhai drwg a’r rhai sy’n hoffi trais. Bydd yn tywallt tân a lafa ar y rhai drwg! Corwynt dinistriol maen nhw’n ei haeddu! Ydy, mae’r ARGLWYDD yn gyfiawn. Mae’n caru gweld cyfiawnder, a bydd y rhai sy’n byw’n gywir yn cael gweld ei wyneb.
Salm 11:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn yr ARGLWYDD y cefais loches; sut y gallwch ddweud wrthyf, “Ffo fel aderyn i'r mynydd, oherwydd y mae'r drygionus yn plygu'r bwa ac yn gosod eu saethau yn y llinyn i saethu yn y tywyllwch at yr uniawn”? Os dinistrir y sylfeini, beth a wna'r cyfiawn? Y mae'r ARGLWYDD yn ei deml sanctaidd, a gorsedd yr ARGLWYDD yn y nefoedd; y mae ei lygaid yn edrych ar y ddynolryw, a'i olygon yn ei phrofi. Profa'r ARGLWYDD y cyfiawn a'r drygionus, a chas ganddo'r sawl sy'n caru trais. Y mae'n glawio marwor tanllyd a brwmstan ar y drygionus; gwynt deifiol fydd eu rhan. Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn ac yn caru cyfiawnder, a'r uniawn sy'n gweld ei wyneb.
Salm 11:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn yr ARGLWYDD yr wyf yn ymddiried: pa fodd y dywedwch wrth fy enaid, Eheda i’ch mynydd fel aderyn? Canys wele, y drygionus a anelant fwa, paratoesant eu saethau ar y llinyn; i saethu yn ddirgel y rhai uniawn o galon. Canys y seiliau a ddinistriwyd; pa beth a wna y cyfiawn? Yr ARGLWYDD sydd yn nheml ei sancteiddrwydd; gorseddfa yr ARGLWYDD sydd yn y nefoedd: y mae ei lygaid ef yn gweled, ei amrantau yn profi meibion dynion. Yr ARGLWYDD a brawf y cyfiawn: eithr cas gan ei enaid ef y drygionus, a’r hwn sydd hoff ganddo drawster. Ar yr annuwiolion y glawia efe faglau, tân a brwmstan, a phoethwynt ystormus: dyma ran eu ffiol hwynt. Canys yr ARGLWYDD cyfiawn a gâr gyfiawnder: ei wyneb a edrych ar yr uniawn.