Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 104:1-35

Salm 104:1-35 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Fy enaid, bendithia’r ARGLWYDD! O ARGLWYDD, fy Nuw, rwyt ti mor fawr! Rwyt wedi dy wisgo ag ysblander ac urddas. Mae clogyn o oleuni wedi’i lapio amdanat. Ti wnaeth ledu’r awyr fel pabell uwch ein pennau. Ti wnaeth osod trawstiau dy balas yn uwch fyth, a gwneud dy gerbyd o’r cymylau i deithio ar adenydd y gwynt. Ti sy’n gwneud y gwyntoedd yn negeswyr i ti, a fflamau o dân yn weision. Ti wnaeth osod y ddaear ar ei sylfeini, er mwyn iddi beidio gwegian byth. Roedd y dyfroedd dwfn yn ei gorchuddio fel gwisg; roedd dŵr uwchben y mynyddoedd. Ond dyma ti’n gweiddi, a dyma nhw’n ffoi, a rhuthro i ffwrdd rhag dy daranau swnllyd; cododd y mynyddoedd, suddodd y dyffrynnoedd ac aeth y dŵr i’r lle roeddet ti wedi’i baratoi iddo. Gosodaist ffiniau allai’r moroedd mo’u croesi, i’w rhwystro rhag gorchuddio’r ddaear byth eto. Ti sy’n gwneud i nentydd lifo rhwng yr hafnau, a ffeindio’u ffordd i lawr rhwng y mynyddoedd. Mae’r anifeiliaid gwyllt yn cael yfed, a’r asynnod gwyllt yn torri eu syched. Mae adar yn nythu wrth eu hymyl ac yn canu yng nghanol y dail. Ti sy’n dyfrio’r mynyddoedd o dy balas uchel. Ti’n llenwi’r ddaear â ffrwythau. Ti sy’n rhoi glaswellt i’r gwartheg, planhigion i bobl eu tyfu iddyn nhw gael bwyd o’r tir – gwin i godi calon, olew i roi sglein ar eu hwynebau, a bara i’w cadw nhw’n fyw. Mae’r coed anferth yn cael digon i’w yfed – y cedrwydd blannodd yr ARGLWYDD yn Libanus lle mae’r adar yn nythu, a’r coed pinwydd ble mae’r storc yn cartrefu. Mae’r mynyddoedd uchel yn gynefin i’r geifr gwyllt, a’r clogwyni yn lloches i’r brochod. Ti wnaeth y lleuad i nodi’r tymhorau, a’r haul, sy’n gwybod pryd i fachlud. Ti sy’n dod â’r tywyllwch iddi nosi, pan mae anifeiliaid y goedwig yn dod allan. Mae’r llewod yn rhuo am ysglyfaeth ac yn gofyn i Dduw am eu bwyd. Wedyn, pan mae’r haul yn codi, maen nhw’n mynd i’w ffeuau i orffwys. A dyna pryd mae pobl yn deffro, a mynd allan i weithio nes iddi nosi. O ARGLWYDD, rwyt wedi creu cymaint o wahanol bethau! Rwyt wedi gwneud y cwbl mor ddoeth. Mae’r ddaear yn llawn o dy greaduriaid di! Draw acw mae’r môr mawr sy’n lledu i bob cyfeiriad, a phethau byw na ellid byth eu cyfri ynddo – creaduriaid bach a mawr. Mae’r llongau’n teithio arno, a’r morfil a greaist i chwarae ynddo. Maen nhw i gyd yn dibynnu arnat ti i roi bwyd iddyn nhw pan mae ei angen. Ti sy’n ei roi a nhw sy’n ei fwyta. Ti’n agor dy law ac maen nhw’n cael eu digoni. Pan wyt ti’n troi dy gefn arnyn nhw, maen nhw’n dychryn. Pan wyt ti’n cymryd eu hanadl oddi arnyn nhw, maen nhw’n marw ac yn mynd yn ôl i’r pridd. Ond pan wyt ti’n anadlu, maen nhw’n cael eu creu, ac mae’r tir yn cael ei adfywio. Boed i ysblander yr ARGLWYDD gael ei weld am byth! Boed i’r ARGLWYDD fwynhau’r cwbl a wnaeth! Dim ond iddo edrych ar y ddaear, mae hi’n crynu! Pan mae’n cyffwrdd y mynyddoedd, maen nhw’n mygu! Dw i’n mynd i ganu i’r ARGLWYDD tra bydda i byw, moli fy Nuw ar gerddoriaeth tra bydda i. Boed i’m myfyrdod ei blesio. Dw i’n mynd i fod yn llawen yn yr ARGLWYDD. Boed i bechaduriaid gael eu dinistrio o’r tir, ac i bobl ddrwg beidio â bod ddim mwy. Fy enaid, bendithia’r ARGLWYDD! Haleliwia!

Salm 104:1-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD. O ARGLWYDD fy Nuw, mawr iawn wyt ti; yr wyt wedi dy wisgo ag ysblander ac anrhydedd, a'th orchuddio â goleuni fel mantell. Yr wyt yn taenu'r nefoedd fel pabell, yn gosod tulathau dy balas ar y dyfroedd, yn cymryd y cymylau'n gerbyd, yn marchogaeth ar adenydd y gwynt, yn gwneud y gwyntoedd yn negeswyr, a'r fflamau tân yn weision. Gosodaist y ddaear ar ei sylfeini, fel na fydd yn symud byth bythoedd; gwnaethost i'r dyfnder ei gorchuddio fel dilledyn, ac y mae dyfroedd yn sefyll goruwch y mynyddoedd. Gan dy gerydd di fe ffoesant, gan sŵn dy daranau ciliasant draw, a chodi dros fynyddoedd a disgyn i'r dyffrynnoedd, i'r lle a bennaist ti iddynt; rhoist iddynt derfyn nad ydynt i'w groesi, rhag iddynt ddychwelyd a gorchuddio'r ddaear. Yr wyt yn gwneud i ffynhonnau darddu mewn hafnau, yn gwneud iddynt lifo rhwng y mynyddoedd; rhônt ddiod i holl fwystfilod y maes, a chaiff asynnod gwyllt eu disychedu; y mae adar y nefoedd yn nythu yn eu hymyl, ac yn trydar ymysg y canghennau. Yr wyt yn dyfrhau'r mynyddoedd o'th balas; digonir y ddaear trwy dy ddarpariaeth. Yr wyt yn gwneud i'r gwellt dyfu i'r gwartheg, a phlanhigion at wasanaeth pobl, i ddwyn allan fwyd o'r ddaear, a gwin i lonni calonnau pobl, olew i ddisgleirio'u hwynebau, a bara i gynnal eu calonnau. Digonir y coedydd cryfion, y cedrwydd Lebanon a blannwyd, lle mae'r adar yn nythu, a'r ciconia yn cartrefu yn eu brigau. Y mae'r mynyddoedd uchel ar gyfer geifr, ac y mae'r clogwyni yn lloches i'r brochod. Yr wyt yn gwneud i'r lleuad nodi'r tymhorau, ac i'r haul wybod pryd i fachlud. Trefnaist dywyllwch, fel bod nos, a holl anifeiliaid y goedwig yn ymlusgo allan, gyda'r llewod ifanc yn rhuo am ysglyfaeth, ac yn ceisio eu bwyd oddi wrth Dduw. Ond pan gyfyd yr haul, y maent yn mynd ymaith, ac yn gorffwyso yn eu ffeuau. A daw pobl allan i weithio, ac at eu llafur hyd yr hwyrnos. Mor niferus yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD! Gwnaethost y cyfan mewn doethineb; y mae'r ddaear yn llawn o'th greaduriaid. Dyma'r môr mawr a llydan, gydag ymlusgiaid dirifedi a chreaduriaid bach a mawr. Arno y mae'r llongau yn tramwyo, a Lefiathan, a greaist i chwarae ynddo. Y mae'r cyfan ohonynt yn dibynnu arnat ti i roi iddynt eu bwyd yn ei bryd. Pan roddi iddynt, y maent yn ei gasglu ynghyd; pan agori dy law, cânt eu diwallu'n llwyr. Ond pan guddi dy wyneb, fe'u drysir; pan gymeri eu hanadl, fe ddarfyddant, a dychwelyd i'r llwch. Pan anfoni dy anadl, cânt eu creu, ac yr wyt yn adnewyddu wyneb y ddaear. Bydded gogoniant yr ARGLWYDD dros byth, a bydded iddo lawenhau yn ei weithredoedd. Pan yw'n edrych ar y ddaear, y mae'n crynu; pan yw'n cyffwrdd â'r mynyddoedd, y maent yn mygu. Canaf i'r ARGLWYDD tra byddaf byw, rhof foliant i Dduw tra byddaf. Bydded fy myfyrdod yn gymeradwy ganddo; yr wyf yn llawenhau yn yr ARGLWYDD. Bydded i'r pechaduriaid ddarfod o'r tir, ac na fydded y drygionus mwyach. Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD. Molwch yr ARGLWYDD.

Salm 104:1-35 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Fy enaid, bendithia yr ARGLWYDD. O ARGLWYDD fy NUW, tra mawr ydwyt; gwisgaist ogoniant a harddwch. Yr hwn wyt yn gwisgo goleuni fel dilledyn: ac yn taenu y nefoedd fel llen. Yr hwn sydd yn gosod tulathau ei ystafelloedd yn y dyfroedd; yn gwneuthur y cymylau yn gerbyd iddo; ac yn rhodio ar adenydd y gwynt. Yr hwn sydd yn gwneuthur ei genhadon yn ysbrydion; a’i weinidogion yn dân fflamllyd. Yr hwn a seiliodd y ddaear ar ei sylfeini, fel na symudo byth yn dragywydd. Toaist hi â’r gorddyfnder, megis â gwisg: y dyfroedd a safent goruwch y mynyddoedd. Gan dy gerydd di y ffoesant: rhag sŵn dy daran y prysurasant ymaith. Gan y mynyddoedd yr ymgodant: ar hyd y dyffrynnoedd y disgynnant, i’r lle a seiliaist iddynt. Gosodaist derfyn, fel nad elont drosodd; fel na ddychwelont i orchuddio y ddaear. Yr hwn a yrr y ffynhonnau i’r dyffrynnoedd, y rhai a gerddant rhwng y bryniau. Diodant holl fwystfilod y maes: yr asynnod gwylltion a dorrant eu syched. Adar y nefoedd a drigant gerllaw iddynt, y rhai a leisiant oddi rhwng y cangau. Y mae efe yn dyfrhau y bryniau o’i ystafelloedd: y ddaear a ddigonir o ffrwyth dy weithredoedd. Y mae yn peri i’r gwellt dyfu i’r anifeiliaid, a llysiau i wasanaeth dyn: fel y dyco fara allan o’r ddaear; A gwin, yr hwn a lawenycha galon dyn; ac olew, i beri i’w wyneb ddisgleirio: a bara, yr hwn a gynnal galon dyn. Prennau yr ARGLWYDD sydd lawn sugn: cedrwydd Libanus, y rhai a blannodd efe; Lle y nytha yr adar: y ffynidwydd yw tŷ y ciconia. Y mynyddoedd uchel sydd noddfa i’r geifr; a’r creigiau i’r cwningod. Efe a wnaeth y lleuad i amserau nodedig: yr haul a edwyn ei fachludiad. Gwnei dywyllwch, a nos fydd: ynddi yr ymlusga pob bwystfil coed. Y cenawon llewod a ruant am ysglyfaeth, ac a geisiant eu bwyd gan DDUW. Pan godo haul, ymgasglant, a gorweddant yn eu llochesau. Dyn a â allan i’w waith, ac i’w orchwyl hyd yr hwyr. Mor lluosog yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb: llawn yw y ddaear o’th gyfoeth. Felly y mae y môr mawr, llydan: yno y mae ymlusgiaid heb rifedi, bwystfilod bychain a mawrion. Yno yr â y llongau: yno y mae y lefiathan, yr hwn a luniaist i chwarae ynddo. Y rhai hyn oll a ddisgwyliant wrthyt; am roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd. A roddech iddynt, a gasglant: agori dy law, a diwellir hwynt â daioni. Ti a guddi dy wyneb, hwythau a drallodir: dygi ymaith eu hanadl, a threngant, a dychwelant i’w llwch. Pan ollyngych dy ysbryd, y crëir hwynt; ac yr adnewyddi wyneb y ddaear. Gogoniant yr ARGLWYDD fydd yn dragywydd: yr ARGLWYDD a lawenycha yn ei weithredoedd. Efe a edrych ar y ddaear, a hi a gryna: efe a gyffwrdd â’r mynyddoedd, a hwy a fygant. Canaf i’r ARGLWYDD tra fyddwyf fyw: canaf i’m DUW tra fyddwyf. Bydd melys fy myfyrdod amdano: mi a lawenychaf yn yr ARGLWYDD. Darfydded y pechaduriaid o’r tir, na fydded yr annuwiolion mwy. Fy enaid, bendithia di yr ARGLWYDD. Molwch yr ARGLWYDD.