Salm 101:1-8
Salm 101:1-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Canaf am ffyddlondeb a chyfiawnder. Canaf gân i ti, O ARGLWYDD! Canaf delyneg am dy ffordd berffaith. Pryd wyt ti’n mynd i ddod ata i? Dw i wedi byw bywyd didwyll yn y palas. Dw i ddim am ystyried bod yn anonest; dw i’n casáu twyll, ac am gael dim i’w wneud â’r peth. Does gen i ddim meddwl mochaidd, a dw i am gael dim i’w wneud â’r drwg. Dw i’n rhoi taw ar bwy bynnag sy’n enllibio’i gymydog yn y dirgel. Alla i ddim diodde pobl falch sy’n llawn ohonyn nhw eu hunain. Dw i wedi edrych am y bobl ffyddlon yn y wlad, i’w cael nhw i fyw gyda mi. Dim ond pobl onest sy’n cael gweithio i mi. Does neb sy’n twyllo yn cael byw yn y palas. Does neb sy’n dweud celwydd yn cael cadw cwmni i mi. Dw i bob amser yn rhoi taw ar y rhai sy’n gwneud drwg yn y wlad. Dw i’n cael gwared â’r rhai sy’n gwneud drwg o ddinas yr ARGLWYDD.
Salm 101:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Canaf am ffyddlondeb a chyfiawnder; i ti, ARGLWYDD, y pynciaf gerdd. Rhof sylw i'r ffordd berffaith; pa bryd y deui ataf? Rhodiaf â chalon gywir ymysg fy nhylwyth; ni osodaf fy llygaid ar ddim annheilwng. Cas gennyf yr un sy'n twyllo; nid oes a wnelwyf ddim ag ef. Bydd y gwyrgam o galon yn troi oddi wrthyf, ac ni fyddaf yn cymdeithasu â'r drwg. Pwy bynnag sy'n enllibio'i gymydog yn ddirgel, rhof daw arno; y ffroenuchel a'r balch, ni allaf ei oddef. Ond y mae fy llygaid ar ffyddloniaid y tir, iddynt gael trigo gyda mi; y sawl a rodia yn y ffordd berffaith a fydd yn fy ngwasanaethu. Ni chaiff unrhyw un sy'n twyllo drigo yn fy nhŷ, nac unrhyw un sy'n dweud celwydd aros yn fy ngŵydd. Fore ar ôl bore rhof daw ar holl rai drygionus y wlad, a thorraf ymaith o ddinas yr ARGLWYDD yr holl wneuthurwyr drygioni.
Salm 101:1-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canaf am drugaredd a barn: i ti, ARGLWYDD, y canaf. Byddaf ddeallus mewn ffordd berffaith. Pa bryd y deui ataf? rhodiaf mewn perffeithrwydd fy nghalon o fewn fy nhŷ. Ni osodaf ddim anwir o flaen fy llygaid: cas gennyf waith y rhai cildynnus; ni lŷn wrthyf fi. Calon gyndyn a gilia oddi wrthyf: nid adnabyddaf ddyn drygionus. Torraf ymaith yr hwn a enllibio ei gymydog yn ddirgel: yr uchel o olwg, a’r balch ei galon, ni allaf ei ddioddef. Fy llygaid fydd ar ffyddloniaid y tir, fel y trigont gyda mi: yr hwn a rodio mewn ffordd berffaith, hwnnw a’m gwasanaetha i. Ni thrig o fewn fy nhŷ yr un a wnelo dwyll: ni thrig yn fy ngolwg yr un a ddywedo gelwydd. Yn fore y torraf ymaith holl annuwiolion y tir, i ddiwreiddio holl weithredwyr anwiredd o ddinas yr ARGLWYDD.