Salm 101:1-3
Salm 101:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Canaf am ffyddlondeb a chyfiawnder. Canaf gân i ti, O ARGLWYDD! Canaf delyneg am dy ffordd berffaith. Pryd wyt ti’n mynd i ddod ata i? Dw i wedi byw bywyd didwyll yn y palas. Dw i ddim am ystyried bod yn anonest; dw i’n casáu twyll, ac am gael dim i’w wneud â’r peth.
Salm 101:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Canaf am ffyddlondeb a chyfiawnder; i ti, ARGLWYDD, y pynciaf gerdd. Rhof sylw i'r ffordd berffaith; pa bryd y deui ataf? Rhodiaf â chalon gywir ymysg fy nhylwyth; ni osodaf fy llygaid ar ddim annheilwng. Cas gennyf yr un sy'n twyllo; nid oes a wnelwyf ddim ag ef.
Salm 101:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canaf am drugaredd a barn: i ti, ARGLWYDD, y canaf. Byddaf ddeallus mewn ffordd berffaith. Pa bryd y deui ataf? rhodiaf mewn perffeithrwydd fy nghalon o fewn fy nhŷ. Ni osodaf ddim anwir o flaen fy llygaid: cas gennyf waith y rhai cildynnus; ni lŷn wrthyf fi.