Salm 1:3-4
Salm 1:3-4 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Bydd fel coeden wedi’i phlannu wrth ffrydiau o ddŵr, yn dwyn ffrwyth yn ei thymor, a’i dail byth yn gwywo. Beth bynnag mae’n ei wneud, bydd yn llwyddo. Ond fydd hi ddim felly ar y rhai drwg! Byddan nhw fel us yn cael eu chwythu i ffwrdd gan y gwynt.
Salm 1:3-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae fel pren wedi ei blannu wrth ffrydiau dŵr ac yn rhoi ffrwyth yn ei dymor, a'i ddeilen heb fod yn gwywo. Beth bynnag a wna, fe lwydda. Nid felly y bydd y drygionus, ond fel us yn cael ei yrru gan wynt.
Salm 1:3-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd; a’i ddalen ni wywa; a pha beth bynnag a wnêl, efe a lwydda. Nid felly y bydd yr annuwiol; ond fel mân us yr hwn a chwâl y gwynt ymaith.