Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 7:6-7 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Diarhebion 7:6-7 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Rôn i’n sefyll yn y tŷ, ac yn edrych allan drwy’r ffenest. Gwelais fachgen ifanc a dim sens ganddo gyda chriw gwyllt o bobl ifanc.

Diarhebion 7:6-7 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Yr oeddwn yn ffenestr fy nhŷ, yn edrych allan trwy'r dellt ac yn gwylio'r rhai ifainc gwirion; a gwelais yn eu plith un disynnwyr

Diarhebion 7:6-7 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Canys a mi yn ffenestr fy nhŷ mi a edrychais trwy fy nellt, A mi a welais ymysg y ffyliaid, ie, mi a ganfûm ymhlith yr ieuenctid, ddyn ieuanc heb ddeall ganddo