Diarhebion 6:6-11 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Diarhebion 6:6-11 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Ti’r diogyn, edrych ar y morgrugyn; astudia’i ffyrdd, a dysga sut i fod yn ddoeth. Does ganddo ddim arweinydd, swyddog, na rheolwr, ac eto mae’n mynd ati i gasglu bwyd yn yr haf, a storio’r hyn sydd arno’i angen adeg y cynhaeaf. Am faint wyt ti’n mynd i orweddian yn dy wely, y diogyn? Pryd wyt ti’n mynd i ddeffro a gwneud rhywbeth? “Ychydig bach mwy o gwsg, pum munud arall! Swatio’n gyfforddus yn y gwely am ychydig.” Ond bydd tlodi yn dy daro di fel lleidr creulon; bydd prinder yn ymosod arnat ti fel milwr arfog!
Diarhebion 6:6-11 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ti ddiogyn, dos at y morgrugyn, a sylwa ar ei ffordd a bydd ddoeth. Er nad oes ganddo arweinydd na rheolwr na llywodraethwr, y mae'n darparu ei gynhaliaeth yn yr haf, yn casglu ei fwyd amser cynhaeaf. O ddiogyn, am ba hyd y byddi'n gorweddian? Pa bryd y codi o'th gwsg? Ychydig gwsg, ychydig hepian, ychydig blethu dwylo i orffwys, a daw tlodi arnat fel dieithryn creulon, ac angen fel gŵr arfog.
Diarhebion 6:6-11 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn; edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth: Nid oes ganddo neb i’w arwain, i’w lywodraethu, nac i’w feistroli; Ac er hynny y mae efe yn paratoi ei fwyd yr haf, ac yn casglu ei luniaeth y cynhaeaf. Pa hyd, ddiogyn, y gorweddi? pa bryd y cyfodi o’th gwsg? Eto ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig blethu dwylo i gysgu. Felly y daw tlodi arnat fel ymdeithydd, a’th angen fel gŵr arfog.