Diarhebion 24:10-12
Diarhebion 24:10-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Os wyt ti’n un i golli hyder dan bwysau, mae gen ti angen mwy o nerth. Achub y rhai sy’n cael eu llusgo i ffwrdd i’w lladd! Bydd barod i helpu’r rhai sy’n baglu i’r bedd. Os byddi di’n dweud, “Ond doedden ni’n gwybod dim am y peth,” cofia fod yr Un sy’n pwyso’r galon yn gweld y gwir! Mae Duw yn dy wylio di, ac mae e’n gwybod; a bydd pawb yn cael beth maen nhw’n ei haeddu.
Diarhebion 24:10-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Os torri dy galon yn nydd cyfyngder, yna y mae dy nerth yn wan. Achub y rhai a ddygir i farwolaeth; rho gymorth i'r rhai a lusgir i'w lladd. Os dywedi, “Ni wyddem ni am hyn”, onid yw'r un sy'n pwyso'r galon yn deall? Y mae'r un sy'n dy wylio yn gwybod, ac yn talu i bob un yn ôl ei waith.
Diarhebion 24:10-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Os llwfrhei mewn amser cyfyngder, bychan yw dy nerth. Gwared y rhai a lusgir i angau: a ymadawit â’r neb sydd barod i’w lladd? Os dywedi, Wele, ni wyddom ni hyn: onid yw pwyswr y calonnau yn deall? a’r hwn sydd yn cadw dy enaid, oni ŵyr efe? ac oni thâl efe i bob un yn ôl ei weithred?