Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 23:26-28 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Diarhebion 23:26-28 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Dw i eisiau dy sylw di, fy mab; gwylia’n ofalus, a dysga gen i. Mae putain fel pwll dwfn, a gwraig anfoesol fel pydew cul. Mae hi’n disgwyl amdanat ti fel lleidr; ac yn gwneud mwy a mwy o ddynion yn anffyddlon i’w gwragedd.

Diarhebion 23:26-28 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Fy mab, dal sylw arnaf, a bydded i'th lygaid ymhyfrydu yn fy ffyrdd. Y mae'r butain fel pwll dwfn, a'r ddynes estron fel pydew cul; y mae'n llercian fel lleidr, ac yn amlhau'r godinebwyr ymysg dynion.

Diarhebion 23:26-28 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Fy mab, moes i mi dy galon; dalied dy lygaid ar fy ffyrdd i. Canys ffos ddofn yw putain: a phydew cyfyng yw y ddieithr. Ie, hi a gynllwyn fel gwilliad; ac a chwanega bechaduriaid ymysg dynion.