Diarhebion 2:1-4
Diarhebion 2:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fy mab, os byddi di’n derbyn beth dw i’n ddweud, ac yn trysori’r hyn dw i’n ei orchymyn; os gwnei di wrando’n astud ar ddoethineb, a cheisio deall yn iawn; os byddi di’n gofyn am gyngor doeth, ac yn awyddus i ddeall yn iawn; os byddi’n ceisio doethineb fel arian ac yn chwilio amdani fel am drysor wedi’i guddio
Diarhebion 2:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fy mab, os derbynni fy ngeiriau, a thrysori fy ngorchmynion, a gwrando'n astud ar ddoethineb, a rhoi dy feddwl ar ddeall; os gelwi am ddeall, a chodi dy lais am wybodaeth, a chwilio amdani fel am arian, a chloddio amdani fel am drysor
Diarhebion 2:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fy mab, os derbynni di fy ngeiriau, ac os cuddi fy ngorchmynion gyda thi; Fel y parech i’th glust wrando ar ddoethineb, ac y gogwyddech dy galon at ddeall; Ie, os gwaeddi ar ôl gwybodaeth, os cyfodi dy lef am ddeall; Os ceisi hi fel arian, os chwili amdani fel am drysorau cuddiedig