Diarhebion 2:1-15
Diarhebion 2:1-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fy mab, os byddi di’n derbyn beth dw i’n ddweud, ac yn trysori’r hyn dw i’n ei orchymyn; os gwnei di wrando’n astud ar ddoethineb, a cheisio deall yn iawn; os byddi di’n gofyn am gyngor doeth, ac yn awyddus i ddeall yn iawn; os byddi’n ceisio doethineb fel arian ac yn chwilio amdani fel am drysor wedi’i guddio, yna byddi di’n deall sut i barchu’r ARGLWYDD a byddi’n dod i wybod am Dduw. Achos yr ARGLWYDD sy’n rhoi doethineb; beth mae e’n ddweud sy’n rhoi gwybodaeth a deall. Mae’n rhoi llwyddiant i’r un sy’n gwneud beth sy’n iawn – ac mae fel tarian i amddiffyn y sawl sy’n byw yn onest. Mae’n gwneud yn siŵr fod cyfiawnder yn llwyddo, ac mae’n gwarchod y rhai sy’n ffyddlon iddo. Byddi’n deall beth sy’n iawn, yn gytbwys, ac yn deg – ie, popeth sy’n dda. Pan fydd doethineb yn rheoli dy ffordd o feddwl a gwybod beth sydd orau yn dy gofleidio di, bydd y ffordd wnei di ei dilyn yn saff, a bydd deall yn dy warchod. Bydd yn dy gadw di rhag dilyn y drwg, a rhag y bobl hynny sy’n twyllo o hyd – y rhai sydd wedi troi cefn ar ffyrdd gonest i ddilyn llwybrau tywyll. Maen nhw wrth eu boddau’n gwneud drwg ac yn mwynhau twyllo – pobl anonest ydyn nhw, ac maen nhw’n dilyn ffyrdd troellog.
Diarhebion 2:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fy mab, os derbynni fy ngeiriau, a thrysori fy ngorchmynion, a gwrando'n astud ar ddoethineb, a rhoi dy feddwl ar ddeall; os gelwi am ddeall, a chodi dy lais am wybodaeth, a chwilio amdani fel am arian, a chloddio amdani fel am drysor— yna cei ddeall ofn yr ARGLWYDD, a chael gwybodaeth o Dduw. Oherwydd yr ARGLWYDD sy'n rhoi doethineb, ac o'i enau ef y daw gwybodaeth a deall. Y mae'n trysori craffter i'r uniawn; y mae'n darian i'r rhai a rodia'n gywir. Y mae'n diogelu llwybrau cyfiawnder, ac yn gwarchod ffordd ei ffyddloniaid. Yna byddi'n deall cyfiawnder a barn, ac uniondeb a phob ffordd dda; oherwydd bydd doethineb yn dod i'th feddwl, a deall yn rhoi pleser iti. Bydd pwyll yn dy amddiffyn, a deall yn dy warchod, ac yn dy gadw rhag ffordd drygioni, a rhag y rhai sy'n siarad yn dwyllodrus— y rhai sy'n gadael y ffordd iawn i rodio yn llwybrau tywyllwch, sy'n cael pleser mewn gwneud drwg a mwynhad mewn twyll, y rhai y mae eu ffordd yn gam a'u llwybrau'n droellog.
Diarhebion 2:1-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fy mab, os derbynni di fy ngeiriau, ac os cuddi fy ngorchmynion gyda thi; Fel y parech i’th glust wrando ar ddoethineb, ac y gogwyddech dy galon at ddeall; Ie, os gwaeddi ar ôl gwybodaeth, os cyfodi dy lef am ddeall; Os ceisi hi fel arian, os chwili amdani fel am drysorau cuddiedig; Yna y cei ddeall ofn yr ARGLWYDD, ac y cei wybodaeth o DDUW. Canys yr ARGLWYDD sydd yn rhoi doethineb: allan o’i enau ef y mae gwybodaeth a deall yn dyfod. Y mae ganddo ynghadw i’r rhai uniawn wir ddoethineb: tarian yw efe i’r sawl a rodiant yn uniawn. Y mae efe yn cadw llwybrau barn, ac yn cadw ffordd ei saint. Yna y cei di ddeall cyfiawnder, a barn, ac uniondeb, a phob llwybr daionus. Pan ddelo doethineb i mewn i’th galon, a phan fyddo hyfryd gan dy enaid wybodaeth; Yna cyngor a’th gynnal, a synnwyr a’th geidw: I’th achub oddi wrth y ffordd ddrwg, ac oddi wrth y dyn a lefaro drawsedd; Y rhai a ymadawant â llwybrau uniondeb, i rodio mewn ffyrdd tywyllwch; Y rhai a ymlawenychant i wneuthur drwg, ac a ymddigrifant yn anwiredd y drygionus; Y rhai sydd â’u ffyrdd yn geimion, ac yn gildyn yn eu llwybrau