Philipiaid 4:8-9
Philipiaid 4:8-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ac un peth arall i gloi, ffrindiau: meddyliwch bob amser am beth sy’n wir ac i’w edmygu – am beth sy’n iawn i’w wneud, yn bur, yn garedig ac yn anrhydeddus – hynny ydy, popeth da ac unrhyw beth sy’n haeddu ei ganmol. Gwnewch y pethau hynny dych chi wedi’u dysgu a’u gweld a’u clywed gen i. A bydd y Duw sy’n rhoi ei heddwch gyda chi.
Philipiaid 4:8-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bellach, gyfeillion, beth bynnag sydd yn wir, beth bynnag sydd yn anrhydeddus, beth bynnag sydd yn gyfiawn a phur, beth bynnag sydd yn hawddgar a chanmoladwy, pob rhinwedd a phopeth yn haeddu clod, myfyriwch ar y pethau hyn. Y pethau yr ydych wedi eu dysgu a'u derbyn, eu clywed a'u gweled, ynof fi, gwnewch y rhain; a bydd Duw'r tangnefedd gyda chwi.
Philipiaid 4:8-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn ddiwethaf, frodyr, pa bethau bynnag sydd wir, pa bethau bynnag sydd onest, pa bethau bynnag sydd gyfiawn, pa bethau bynnag sydd bur, pa bethau bynnag sydd hawddgar, pa bethau bynnag sydd ganmoladwy, od oes un rhinwedd, ac od oes dim clod, meddyliwch am y pethau hyn. Y rhai a ddysgasoch, ac a dderbyniasoch, ac a glywsoch, ac a welsoch ynof fi, y pethau hyn gwnewch: a Duw’r heddwch a fydd gyda chwi.