Philipiaid 4:7-8
Philipiaid 4:7-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Byddwch chi’n profi’r heddwch perffaith mae Duw’n ei roi – y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg – yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu. Ac un peth arall i gloi, ffrindiau: meddyliwch bob amser am beth sy’n wir ac i’w edmygu – am beth sy’n iawn i’w wneud, yn bur, yn garedig ac yn anrhydeddus – hynny ydy, popeth da ac unrhyw beth sy’n haeddu ei ganmol.
Philipiaid 4:7-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu. Bellach, gyfeillion, beth bynnag sydd yn wir, beth bynnag sydd yn anrhydeddus, beth bynnag sydd yn gyfiawn a phur, beth bynnag sydd yn hawddgar a chanmoladwy, pob rhinwedd a phopeth yn haeddu clod, myfyriwch ar y pethau hyn.
Philipiaid 4:7-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A thangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, a geidw eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu. Yn ddiwethaf, frodyr, pa bethau bynnag sydd wir, pa bethau bynnag sydd onest, pa bethau bynnag sydd gyfiawn, pa bethau bynnag sydd bur, pa bethau bynnag sydd hawddgar, pa bethau bynnag sydd ganmoladwy, od oes un rhinwedd, ac od oes dim clod, meddyliwch am y pethau hyn.