Philipiaid 4:4-7
Philipiaid 4:4-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Llawenhewch yn yr Arglwydd yn wastadol: a thrachefn meddaf, Llawenhewch. Bydded eich arafwch yn hysbys i bob dyn. Y mae’r Arglwydd yn agos. Na ofelwch am ddim: eithr ym mhob peth mewn gweddi ac ymbil gyda diolchgarwch, gwneler eich deisyfiadau chwi yn hysbys gerbron Duw. A thangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, a geidw eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu.
Philipiaid 4:4-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Byddwch yn llawen bob amser am eich bod yn perthyn i’r Arglwydd. Dw i’n dweud eto: Byddwch yn llawen! Gadewch i bawb weld eich bod yn bobl garedig. Mae’r Arglwydd yn dod yn fuan. Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser. Byddwch chi’n profi’r heddwch perffaith mae Duw’n ei roi – y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg – yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu.
Philipiaid 4:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Llawenhewch yn yr Arglwydd bob amser; fe'i dywedaf eto, llawenhewch. Bydded eich hynawsedd yn hysbys i bob dyn. Y mae'r Arglwydd yn agos. Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil, ynghyd â diolchgarwch. A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu.