Philipiaid 4:2-7
Philipiaid 4:2-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i’n apelio ar Euodia a Syntyche i ddod ymlaen â’i gilydd am eu bod yn perthyn i’r Arglwydd. A dw i’n gofyn i ti, fy mhartner ffyddlon i, eu helpu nhw. Mae’r ddwy yn wragedd sydd wedi brwydro gyda mi o blaid y newyddion da, gyda Clement a phob un arall o’m cydweithwyr. Mae eu henwau i gyd yn Llyfr y Bywyd. Byddwch yn llawen bob amser am eich bod yn perthyn i’r Arglwydd. Dw i’n dweud eto: Byddwch yn llawen! Gadewch i bawb weld eich bod yn bobl garedig. Mae’r Arglwydd yn dod yn fuan. Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser. Byddwch chi’n profi’r heddwch perffaith mae Duw’n ei roi – y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg – yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu.
Philipiaid 4:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr wyf yn annog Euodia, ac yn annog Syntyche, i fyw'n gytûn yn yr Arglwydd. Ac yn wir y mae gennyf gais i tithau, fy nghydymaith cywir dan yr iau: rho dy gymorth i'r gwragedd hyn a gydymdrechodd â mi o blaid yr Efengyl, ynghyd â Clement a'm cydweithwyr eraill, sydd â'u henwau yn llyfr y bywyd. Llawenhewch yn yr Arglwydd bob amser; fe'i dywedaf eto, llawenhewch. Bydded eich hynawsedd yn hysbys i bob dyn. Y mae'r Arglwydd yn agos. Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil, ynghyd â diolchgarwch. A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu.
Philipiaid 4:2-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr ydwyf yn atolwg i Euodias, ac yn atolwg i Syntyche, synied yr un peth yn yr Arglwydd. Ac yr ydwyf yn dymuno arnat tithau, fy ngwir gymar, cymorth y gwragedd hynny y rhai yn yr efengyl a gydlafuriasant â mi, ynghyd â Chlement hefyd, a’m cyd-weithwyr eraill, y rhai y mae eu henwau yn llyfr y bywyd. Llawenhewch yn yr Arglwydd yn wastadol: a thrachefn meddaf, Llawenhewch. Bydded eich arafwch yn hysbys i bob dyn. Y mae’r Arglwydd yn agos. Na ofelwch am ddim: eithr ym mhob peth mewn gweddi ac ymbil gyda diolchgarwch, gwneler eich deisyfiadau chwi yn hysbys gerbron Duw. A thangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, a geidw eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu.