Philipiaid 4:2-3
Philipiaid 4:2-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i’n apelio ar Euodia a Syntyche i ddod ymlaen â’i gilydd am eu bod yn perthyn i’r Arglwydd. A dw i’n gofyn i ti, fy mhartner ffyddlon i, eu helpu nhw. Mae’r ddwy yn wragedd sydd wedi brwydro gyda mi o blaid y newyddion da, gyda Clement a phob un arall o’m cydweithwyr. Mae eu henwau i gyd yn Llyfr y Bywyd.
Philipiaid 4:2-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr wyf yn annog Euodia, ac yn annog Syntyche, i fyw'n gytûn yn yr Arglwydd. Ac yn wir y mae gennyf gais i tithau, fy nghydymaith cywir dan yr iau: rho dy gymorth i'r gwragedd hyn a gydymdrechodd â mi o blaid yr Efengyl, ynghyd â Clement a'm cydweithwyr eraill, sydd â'u henwau yn llyfr y bywyd.
Philipiaid 4:2-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr ydwyf yn atolwg i Euodias, ac yn atolwg i Syntyche, synied yr un peth yn yr Arglwydd. Ac yr ydwyf yn dymuno arnat tithau, fy ngwir gymar, cymorth y gwragedd hynny y rhai yn yr efengyl a gydlafuriasant â mi, ynghyd â Chlement hefyd, a’m cyd-weithwyr eraill, y rhai y mae eu henwau yn llyfr y bywyd.