Philipiaid 4:18-20
Philipiaid 4:18-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i wedi derbyn popeth sydd arna i ei angen, a mwy! Bellach mae gen i hen ddigon ar ôl derbyn eich rhodd gan Epaffroditws. Mae’r cwbl fel offrwm i Dduw – yn arogli’n hyfryd, ac yn aberth sy’n dderbyniol gan Dduw ac yn ei blesio. Bydd Duw yn rhoi popeth sydd arnoch ei angen i chithau – mae ganddo stôr rhyfeddol o gyfoeth i’w rannu gyda ni sy’n perthyn i’r Meseia Iesu. Felly, bydded i Dduw a’n Tad ni gael ei foli am byth! Amen!
Philipiaid 4:18-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr wyf fi wedi derbyn fy nhâl yn llawn, a mwy na hynny; y mae gennyf gyflawnder ar ôl derbyn trwy law Epaffroditus yr hyn a anfonasoch chwi; y mae hynny'n arogl pêr, yn aberth cymeradwy, wrth fodd Duw. A bydd fy Nuw i yn cyflawni eich holl angen chwi yn ôl cyfoeth ei ogoniant yng Nghrist Iesu. I'n Duw a'n Tad y byddo'r gogoniant byth bythoedd! Amen.
Philipiaid 4:18-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond y mae gennyf bob peth, ac y mae gennyf helaethrwydd: mi a gyflawnwyd, wedi i mi dderbyn gan Epaffroditus y pethau a ddaethant oddi wrthych chwi; sef arogl peraidd, aberth cymeradwy, bodlon gan Dduw. A’m Duw i a gyflawna eich holl raid chwi yn ôl ei olud ef mewn gogoniant, yng Nghrist Iesu. Ond i Dduw a’n Tad ni y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen.