Philipiaid 4:14-23
Philipiaid 4:14-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Beth bynnag, diolch i chi am fod mor barod i rannu gyda mi pan oedd pethau’n anodd. Yn y dyddiau cynnar pan glywoch chi’r newyddion da gyntaf, pan adewais i Macedonia, chi yn Philipi oedd yr unig rai wnaeth fy helpu i – dych chi’n gwybod hynny’n iawn. Hyd yn oed pan oeddwn i yn Thesalonica, dyma chi’n anfon rhodd ata i sawl tro. A dw i ddim yn pysgota am rodd arall wrth ddweud hyn i gyd. Dim ond eisiau i chi ddal ati i ychwanegu at eich stôr o weithredoedd da ydw i. Dw i wedi derbyn popeth sydd arna i ei angen, a mwy! Bellach mae gen i hen ddigon ar ôl derbyn eich rhodd gan Epaffroditws. Mae’r cwbl fel offrwm i Dduw – yn arogli’n hyfryd, ac yn aberth sy’n dderbyniol gan Dduw ac yn ei blesio. Bydd Duw yn rhoi popeth sydd arnoch ei angen i chithau – mae ganddo stôr rhyfeddol o gyfoeth i’w rannu gyda ni sy’n perthyn i’r Meseia Iesu. Felly, bydded i Dduw a’n Tad ni gael ei foli am byth! Amen! Cofiwch fi at bob un o’r Cristnogion acw. Mae’r ffrindiau sydd gyda mi yma yn anfon eu cyfarchion. Ac mae’r Cristnogion eraill i gyd yn anfon eu cyfarchion atoch chi hefyd – yn arbennig y rhai hynny sy’n gweithio ym mhalas Cesar. Dw i’n gweddïo y byddwch chi’n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist! Amen.
Philipiaid 4:14-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Er hynny, da y gwnaethoch wrth rannu â mi fy ngorthrymder. Yr ydych chwithau, Philipiaid, yn gwybod, pan euthum allan o Facedonia ar gychwyn y genhadaeth, na fu gan yr un eglwys, ar wahân i chwi yn unig, ran gyda mi mewn rhoi a derbyn; oherwydd yn Thesalonica hyd yn oed anfonasoch unwaith, ac eilwaith, i gyfarfod â'm hangen. Nid ceisio'r rhodd yr wyf, ond ceisio'r elw sy'n cynyddu i'ch cyfrif chwi. Yr wyf fi wedi derbyn fy nhâl yn llawn, a mwy na hynny; y mae gennyf gyflawnder ar ôl derbyn trwy law Epaffroditus yr hyn a anfonasoch chwi; y mae hynny'n arogl pêr, yn aberth cymeradwy, wrth fodd Duw. A bydd fy Nuw i yn cyflawni eich holl angen chwi yn ôl cyfoeth ei ogoniant yng Nghrist Iesu. I'n Duw a'n Tad y byddo'r gogoniant byth bythoedd! Amen. Cyfarchwch bob sant yng Nghrist Iesu. Y mae'r cyfeillion sydd gyda mi yn eich cyfarch chwi. Y mae'r saint i gyd, ac yn arbennig y rhai sydd yng ngwasanaeth Cesar, yn eich cyfarch. Gras yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda'ch ysbryd!
Philipiaid 4:14-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Er hynny, da y gwnaethoch gydgyfrannu â’m gorthrymder i. A chwithau, Philipiaid, hefyd a wyddoch yn nechreuad yr efengyl, pan euthum i ymaith o Facedonia, na chyfrannodd un eglwys â mi o ran rhoddi a derbyn, ond chwychwi yn unig. Oblegid yn Thesalonica hefyd yr anfonasoch i mi unwaith ac eilwaith wrth fy anghenraid. Nid oherwydd fy mod i yn ceisio rhodd: eithr yr ydwyf yn ceisio ffrwyth yn amlhau erbyn eich cyfrif chwi. Ond y mae gennyf bob peth, ac y mae gennyf helaethrwydd: mi a gyflawnwyd, wedi i mi dderbyn gan Epaffroditus y pethau a ddaethant oddi wrthych chwi; sef arogl peraidd, aberth cymeradwy, bodlon gan Dduw. A’m Duw i a gyflawna eich holl raid chwi yn ôl ei olud ef mewn gogoniant, yng Nghrist Iesu. Ond i Dduw a’n Tad ni y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen. Anerchwch yr holl saint yng Nghrist Iesu. Y mae’r brodyr sydd gyda mi yn eich annerch. Y mae’r saint oll yn eich annerch chwi, ac yn bennaf y rhai sydd o deulu Cesar. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi oll. Amen. At y Philipiaid yr ysgrifennwyd o Rufain gydag Epaffroditus.