Philipiaid 4:11-13
Philipiaid 4:11-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i ddim yn dweud hyn am fy mod i mewn angen, achos dw i wedi dysgu bod yn fodlon beth bynnag sy’n digwydd i mi. Dw i’n gwybod sut mae byw pan dw i’n brin, a sut beth ydy bod ar ben fy nigon. Dw i wedi dysgu’r gyfrinach o fod yn hapus beth bynnag ydy’r sefyllfa – pan mae gen i stumog lawn, a phan dw i’n llwgu, os oes gen i hen ddigon neu os nad oes gen i ddim. Dw i’n gallu wynebu pob sefyllfa am fod y Meseia yn rhoi’r nerth i mi wneud hynny.
Philipiaid 4:11-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid fy mod yn dweud hyn am fod arnaf angen, oherwydd yr wyf fi wedi dysgu bod yn fodlon, beth bynnag fy amgylchiadau. Gwn sut i gymryd fy narostwng, a gwn hefyd sut i fod uwchben fy nigon. Ym mhob rhyw amgylchiadau, yr wyf wedi dysgu'r gyfrinach sut i ddygymod, boed â llawnder neu newyn, â helaethrwydd neu brinder. Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy yr hwn sydd yn fy nerthu i.
Philipiaid 4:11-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Nid am fy mod yn dywedyd oherwydd eisiau: canys myfi a ddysgais ym mha gyflwr bynnag y byddwyf, fod yn fodlon iddo. Ac mi a fedraf ymostwng, ac a fedraf ymhelaethu: ym mhob lle ac ym mhob peth y’m haddysgwyd, i fod yn llawn ac i fod yn newynog, i fod mewn helaethrwydd ac i fod mewn prinder. Yr wyf yn gallu pob peth trwy Grist, yr hwn sydd yn fy nerthu i.