Philipiaid 4:10-11
Philipiaid 4:10-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Rôn i mor llawen, ac yn diolch i’r Arglwydd eich bod wedi dangos gofal amdana i unwaith eto. Dw i’n gwybod mai felly roeddech chi’n teimlo drwy’r adeg, ond doedd dim cyfle i chi ddangos hynny. Dw i ddim yn dweud hyn am fy mod i mewn angen, achos dw i wedi dysgu bod yn fodlon beth bynnag sy’n digwydd i mi.
Philipiaid 4:10-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae'n llawenydd mawr yn yr Arglwydd i mi, fod eich gofal amdanaf yn awr o'r diwedd wedi blaguro eto. O ran hynny, yr oedd y gofal gennych; yr amser cyfaddas oedd yn eisiau. Nid fy mod yn dweud hyn am fod arnaf angen, oherwydd yr wyf fi wedi dysgu bod yn fodlon, beth bynnag fy amgylchiadau.
Philipiaid 4:10-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Mi a lawenychais hefyd yn yr Arglwydd yn fawr, oblegid i’ch gofal chwi amdanaf fi yr awr hon o’r diwedd adnewyddu; yn yr hyn y buoch ofalus hefyd, ond eisiau amser cyfaddas oedd arnoch. Nid am fy mod yn dywedyd oherwydd eisiau: canys myfi a ddysgais ym mha gyflwr bynnag y byddwyf, fod yn fodlon iddo.