Philipiaid 4:1-3
Philipiaid 4:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i’n eich caru chi gymaint ac yn hiraethu amdanoch chi. Dych chi’n fy ngwneud i mor hapus, a dw i mor falch ohonoch chi. Felly daliwch ati – arhoswch yn ffyddlon i’r Arglwydd. Dw i’n apelio ar Euodia a Syntyche i ddod ymlaen â’i gilydd am eu bod yn perthyn i’r Arglwydd. A dw i’n gofyn i ti, fy mhartner ffyddlon i, eu helpu nhw. Mae’r ddwy yn wragedd sydd wedi brwydro gyda mi o blaid y newyddion da, gyda Clement a phob un arall o’m cydweithwyr. Mae eu henwau i gyd yn Llyfr y Bywyd.
Philipiaid 4:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Am hynny, fy nghyfeillion, anwyliaid yr wyf yn hiraethu amdanynt, fy llawenydd a'm coron, safwch yn gadarn fel hyn yn yr Arglwydd, fy nghyfeillion annwyl. Yr wyf yn annog Euodia, ac yn annog Syntyche, i fyw'n gytûn yn yr Arglwydd. Ac yn wir y mae gennyf gais i tithau, fy nghydymaith cywir dan yr iau: rho dy gymorth i'r gwragedd hyn a gydymdrechodd â mi o blaid yr Efengyl, ynghyd â Clement a'm cydweithwyr eraill, sydd â'u henwau yn llyfr y bywyd.
Philipiaid 4:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny, fy mrodyr annwyl a hoff, fy llawenydd a’m coron, felly sefwch yn yr Arglwydd, anwylyd. Yr ydwyf yn atolwg i Euodias, ac yn atolwg i Syntyche, synied yr un peth yn yr Arglwydd. Ac yr ydwyf yn dymuno arnat tithau, fy ngwir gymar, cymorth y gwragedd hynny y rhai yn yr efengyl a gydlafuriasant â mi, ynghyd â Chlement hefyd, a’m cyd-weithwyr eraill, y rhai y mae eu henwau yn llyfr y bywyd.