Philipiaid 3:3-9
Philipiaid 3:3-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ni, dim nhw, ydy’r rhai sydd wedi cael ein henwaedu go iawn – ni sy’n addoli Duw dan arweiniad yr Ysbryd Glân. Ni sy’n ymfalchïo yn beth wnaeth y Meseia Iesu, dim beth sydd wedi’i wneud i’r corff. Er, byddai gen i ddigon o sail i ymddiried yn hynny taswn i eisiau! Mae gen i fwy o le i ymddiried yn y math yna o beth na neb! Ces i fy enwaedu yn wythnos oed; dw i’n dod o dras Iddewig pur; dw i’n aelod o lwyth Benjamin; dw i’n siarad Hebraeg, fel mae fy rhieni; roeddwn i’n Pharisead oedd yn cadw Cyfraith Moses yn fanwl, fanwl; roeddwn i mor frwd nes i mi fynd ati i erlid yr eglwys Gristnogol. Yn ôl y safonau mae’r Gyfraith Iddewig yn ei hawlio, doedd neb yn gallu gweld bai arna i. Rôn i’n cyfri’r pethau yna i gyd mor bwysig ar un adeg, ond o achos beth wnaeth y Meseia, dŷn nhw’n dda i ddim bellach. Does dim byd mwy gwerthfawr bellach na’r fraint aruthrol o gael nabod fy Arglwydd, y Meseia Iesu! Dw i’n gallu byw heb y pethau eraill i gyd, cyn belled â mod i’n cael y Meseia. Sbwriel ydy’r cwbl o’i gymharu â chael perthyn i’r Meseia! Bellach, dw i ddim yn honni bod mewn perthynas iawn gyda Duw ar sail beth dw i wedi llwyddo i’w wneud (hynny ydy, ufuddhau i’r Gyfraith Iddewig). Yr unig beth sy’n cyfri bellach ydy fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon – mae perthynas iawn gyda Duw yn rhodd i ni sy’n credu ynddo!
Philipiaid 3:3-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd ni yw'r rhai gwir enwaededig, ni sy'n addoli trwy Ysbryd Duw, ac yn ymfalchïo yng Nghrist Iesu heb ymddiried yn y cnawd— er bod gennyf, o'm rhan fy hun, le i ymddiried yn y cnawd hefyd. Os oes rhywun arall yn tybio fod ganddo le i ymddiried yn y cnawd, yr wyf fi'n fwy felly: wedi enwaedu arnaf yr wythfed dydd, o hil Israel, o lwyth Benjamin, yn Hebrëwr o dras Hebrewyr; yn ôl y Gyfraith, yn Pharisead; o ran sêl, yn erlid yr eglwys; yn ôl y cyfiawnder sy'n perthyn i'r Gyfraith, yn ddi-fai. Ond beth bynnag oedd yn ennill i mi, yr wyf yn awr yn ei ystyried yn golled oherwydd Crist. A mwy na hynny hyd yn oed, yr wyf yn dal i gyfrif pob peth yn golled, ar bwys rhagoriaeth y profiad o adnabod Crist Iesu fy Arglwydd, yr un y collais bob peth o'i herwydd. Yr wyf yn cyfrif y cwbl yn ysbwriel, er mwyn imi ennill Crist a'm cael ynddo ef, heb ddim cyfiawnder o'm heiddo fy hun sy'n tarddu o'r Gyfraith, ond hwnnw sydd trwy ffydd yng Nghrist, y cyfiawnder sydd o Dduw ar sail ffydd.
Philipiaid 3:3-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys yr enwaediad ydym ni, y rhai ydym yn gwasanaethu Duw yn yr ysbryd, ac yn gorfoleddu yng Nghrist Iesu, ac nid yn ymddiried yn y cnawd: Ac er bod gennyf achos i ymddiried, ie, yn y cnawd. Os yw neb arall yn tybied y gall ymddiried yn y cnawd, myfi yn fwy: Wedi enwaedu arnaf yr wythfed dydd, o genedl Israel, o lwyth Benjamin, yn Hebrëwr o’r Hebreaid; yn ôl y ddeddf yn Pharisead; Yn ôl sêl, yn erlid yr eglwys; yn ôl y cyfiawnder sydd yn y ddeddf, yn ddiargyhoedd. Eithr y pethau oedd elw i mi, y rhai hynny a gyfrifais i yn golled er mwyn Crist. Ie, yn ddiamau, yr wyf hefyd yn cyfrif pob peth yn golled oherwydd ardderchowgrwydd gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd: er mwyn yr hwn y’m colledwyd ym mhob peth, ac yr wyf yn eu cyfrif yn dom, fel yr enillwyf Grist, Ac y’m ceir ynddo ef heb fy nghyfiawnder fy hun, yr hwn sydd o’r gyfraith, ond yr hwn sydd trwy ffydd Crist, sef y cyfiawnder sydd o Dduw trwy ffydd