Philipiaid 3:20-21
Philipiaid 3:20-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond dŷn ni’n wahanol. Dŷn ni’n ddinasyddion y nefoedd, ac yn edrych ymlaen yn frwd i’n Hachubwr, yr Arglwydd Iesu Grist, ddod yn ôl o’r nefoedd. Bydd yn trawsffurfio ein cyrff marwol, tila ni, ac yn eu gwneud yr un fath â’i gorff rhyfeddol ei hun, drwy’r grym sy’n ei alluogi i osod pob peth dan ei reolaeth ei hun.
Philipiaid 3:20-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd yn y nefoedd y mae ein dinasyddiaeth ni, ac oddi yno hefyd yr ydym yn disgwyl Gwaredwr, sef yr Arglwydd Iesu Grist. Bydd ef yn gweddnewid ein corff iselwael ni ac yn ei wneud yn unffurf â'i gorff gogoneddus ef, trwy'r nerth sydd yn ei alluogi i ddwyn pob peth dan ei awdurdod.
Philipiaid 3:20-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys ein hymarweddiad ni sydd yn y nefoedd; o’r lle hefyd yr ydym yn disgwyl yr Iachawdwr, yr Arglwydd Iesu Grist: Yr hwn a gyfnewidia ein corff gwael ni, fel y gwneler ef yr un ffurf â’i gorff gogoneddus ef, yn ôl y nerthol weithrediad trwy yr hwn y dichon efe, ie, ddarostwng pob peth iddo ei hun.