Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Philipiaid 3:2-11

Philipiaid 3:2-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Gwyliwch y bobl hynny sydd ond eisiau gwneud drwg – y cŵn annifyr! Y rhai sy’n dweud fod rhaid torri’r cnawd â chyllell i gael eich achub! Ni, dim nhw, ydy’r rhai sydd wedi cael ein henwaedu go iawn – ni sy’n addoli Duw dan arweiniad yr Ysbryd Glân. Ni sy’n ymfalchïo yn beth wnaeth y Meseia Iesu, dim beth sydd wedi’i wneud i’r corff. Er, byddai gen i ddigon o sail i ymddiried yn hynny taswn i eisiau! Mae gen i fwy o le i ymddiried yn y math yna o beth na neb! Ces i fy enwaedu yn wythnos oed; dw i’n dod o dras Iddewig pur; dw i’n aelod o lwyth Benjamin; dw i’n siarad Hebraeg, fel mae fy rhieni; roeddwn i’n Pharisead oedd yn cadw Cyfraith Moses yn fanwl, fanwl; roeddwn i mor frwd nes i mi fynd ati i erlid yr eglwys Gristnogol. Yn ôl y safonau mae’r Gyfraith Iddewig yn ei hawlio, doedd neb yn gallu gweld bai arna i. Rôn i’n cyfri’r pethau yna i gyd mor bwysig ar un adeg, ond o achos beth wnaeth y Meseia, dŷn nhw’n dda i ddim bellach. Does dim byd mwy gwerthfawr bellach na’r fraint aruthrol o gael nabod fy Arglwydd, y Meseia Iesu! Dw i’n gallu byw heb y pethau eraill i gyd, cyn belled â mod i’n cael y Meseia. Sbwriel ydy’r cwbl o’i gymharu â chael perthyn i’r Meseia! Bellach, dw i ddim yn honni bod mewn perthynas iawn gyda Duw ar sail beth dw i wedi llwyddo i’w wneud (hynny ydy, ufuddhau i’r Gyfraith Iddewig). Yr unig beth sy’n cyfri bellach ydy fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon – mae perthynas iawn gyda Duw yn rhodd i ni sy’n credu ynddo! Bellach yr unig beth dw i eisiau ydy dod i nabod y Meseia Iesu yn well, drwy brofi y pŵer hwnnw wnaeth ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, a gallu dioddef fel y gwnaeth e – hyd yn oed os bydd hynny’n golygu marw drosto! Bydda innau wedyn yn cael rhannu’r profiad o godi yn ôl yn fyw ar ôl i mi farw.