Philipiaid 3:19-20
Philipiaid 3:19-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dinistr fydd eu diwedd nhw! Dynion sy’n addoli beth maen nhw’n ei fwyta – dyna’r duw sy’n eu rheoli nhw! Dynion sy’n brolio am beth ddylai godi cywilydd arnyn nhw! Pethau’r byd ydy’r unig bethau sydd ar eu meddyliau nhw. Ond dŷn ni’n wahanol. Dŷn ni’n ddinasyddion y nefoedd, ac yn edrych ymlaen yn frwd i’n Hachubwr, yr Arglwydd Iesu Grist, ddod yn ôl o’r nefoedd.
Philipiaid 3:19-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Distryw yw eu diwedd, y bol yw eu duw, ac yn eu cywilydd y mae eu gogoniant; pobl â'u bryd ar bethau daearol ydynt. Oherwydd yn y nefoedd y mae ein dinasyddiaeth ni, ac oddi yno hefyd yr ydym yn disgwyl Gwaredwr, sef yr Arglwydd Iesu Grist.
Philipiaid 3:19-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Diwedd y rhai yw distryw, duw y rhai yw eu bol, a’u gogoniant yn eu cywilydd, y rhai sydd yn synied pethau daearol.) Canys ein hymarweddiad ni sydd yn y nefoedd; o’r lle hefyd yr ydym yn disgwyl yr Iachawdwr, yr Arglwydd Iesu Grist