Philipiaid 3:17-18
Philipiaid 3:17-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i am i chi ddilyn fy esiampl i, frodyr a chwiorydd, a dysgu gan y rhai sy’n byw fel yma – dŷn ni wedi dangos y ffordd i chi. Dw i wedi dweud hyn lawer gwaith, a dw i’n dweud yr un peth eto gyda dagrau – mae llawer yn byw mewn ffordd sy’n dangos eu bod nhw’n elynion i’r neges am farwolaeth y Meseia ar y groes.
Philipiaid 3:17-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Byddwch yn gydefelychwyr ohonof fi, gyfeillion, a daliwch sylw ar y rhai sy'n byw yn ôl yr esiampl sydd gennych ynom ni. Oherwydd y mae llawer, yr wyf yn fynych wedi sôn wrthych amdanynt, ac yr wyf yn sôn eto yn awr gan wylo, sydd o ran eu ffordd o fyw yn elynion croes Crist.
Philipiaid 3:17-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Byddwch ddilynwyr i mi, frodyr, ac edrychwch ar y rhai sydd yn rhodio felly, megis yr ydym ni yn siampl i chwi. (Canys y mae llawer yn rhodio, am y rhai y dywedais i chwi yn fynych, ac yr ydwyf yr awron hefyd dan wylo yn dywedyd, mai gelynion croes Crist ydynt