Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Philipiaid 3:10-11 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Philipiaid 3:10-11 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Bellach yr unig beth dw i eisiau ydy dod i nabod y Meseia Iesu yn well, drwy brofi y pŵer hwnnw wnaeth ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, a gallu dioddef fel y gwnaeth e – hyd yn oed os bydd hynny’n golygu marw drosto! Bydda innau wedyn yn cael rhannu’r profiad o godi yn ôl yn fyw ar ôl i mi farw.

Philipiaid 3:10-11 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Rwyf am ei adnabod ef, a grym ei atgyfodiad, a chymdeithas ei ddioddefiadau, wrth gael fy nghydffurfio â'i farwolaeth ef, fel y caf i rywfodd, gyrraedd yr atgyfodiad oddi wrth y meirw.

Philipiaid 3:10-11 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Fel yr adnabyddwyf ef, a grym ei atgyfodiad ef, a chymdeithas ei ddioddefiadau ef, gan fod wedi fy nghydffurfio â’i farwolaeth ef; Os mewn un modd y gallwn gyrhaeddyd atgyfodiad y meirw