Philipiaid 3:1-4
Philipiaid 3:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn olaf, ffrindiau, byddwch yn llawen eich bod chi’n perthyn i’r Arglwydd! Dw i ddim yn blino dal ati i ysgrifennu’r un peth atoch chi. Dw i’n gwneud hynny i’ch amddiffyn chi. Gwyliwch y bobl hynny sydd ond eisiau gwneud drwg – y cŵn annifyr! Y rhai sy’n dweud fod rhaid torri’r cnawd â chyllell i gael eich achub! Ni, dim nhw, ydy’r rhai sydd wedi cael ein henwaedu go iawn – ni sy’n addoli Duw dan arweiniad yr Ysbryd Glân. Ni sy’n ymfalchïo yn beth wnaeth y Meseia Iesu, dim beth sydd wedi’i wneud i’r corff. Er, byddai gen i ddigon o sail i ymddiried yn hynny taswn i eisiau! Mae gen i fwy o le i ymddiried yn y math yna o beth na neb!
Philipiaid 3:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bellach, gyfeillion, llawenhewch yn yr Arglwydd. Nid yw ysgrifennu'r un pethau atoch yn drafferth i mi, ac i chwi y mae'n ddiogelwch. Gwyliwch y cŵn, gwyliwch y drwgweithredwyr, gwyliwch y rhai nad ydynt ond yn gwaedu'r cnawd. Oherwydd ni yw'r rhai gwir enwaededig, ni sy'n addoli trwy Ysbryd Duw, ac yn ymfalchïo yng Nghrist Iesu heb ymddiried yn y cnawd— er bod gennyf, o'm rhan fy hun, le i ymddiried yn y cnawd hefyd. Os oes rhywun arall yn tybio fod ganddo le i ymddiried yn y cnawd, yr wyf fi'n fwy felly
Philipiaid 3:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Weithian, fy mrodyr, byddwch lawen yn yr Arglwydd. Ysgrifennu yr un pethau atoch, gennyf fi yn wir nid yw flin, ac i chwithau y mae yn ddiogel. Gochelwch gŵn, gochelwch ddrwgweithwyr, gochelwch y cyd-doriad. Canys yr enwaediad ydym ni, y rhai ydym yn gwasanaethu Duw yn yr ysbryd, ac yn gorfoleddu yng Nghrist Iesu, ac nid yn ymddiried yn y cnawd: Ac er bod gennyf achos i ymddiried, ie, yn y cnawd. Os yw neb arall yn tybied y gall ymddiried yn y cnawd, myfi yn fwy