Philipiaid 2:6-7 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Philipiaid 2:6-7 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Roedd e’n rhannu’r un natur â Duw, heb angen ceisio gwneud ei hun yn gydradd â Duw; ond dewisodd roi ei hun yn llwyr i wasanaethu eraill, a gwneud ei hun yn gaethwas, a dod aton ni fel person dynol – roedd yn amlwg i bawb ei fod yn ddyn.
Rhanna
Philipiaid 2 BNETPhilipiaid 2:6-7 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Er ei fod ef ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i'w gipio, ond fe'i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol.
Rhanna
Philipiaid 2 BCNDPhilipiaid 2:6-7 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn, ac efe yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch â Duw; Eithr efe a’i dibrisiodd ei hun, gan gymryd arno agwedd gwas, ac a wnaed mewn cyffelybiaeth dynion
Rhanna
Philipiaid 2 BWM