Philipiaid 2:4-7
Philipiaid 2:4-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Meddyliwch am bobl eraill gyntaf, yn lle dim ond meddwl amdanoch chi’ch hunain. Dylai eich agwedd chi fod yr un fath ag agwedd y Meseia Iesu: Roedd e’n rhannu’r un natur â Duw, heb angen ceisio gwneud ei hun yn gydradd â Duw; ond dewisodd roi ei hun yn llwyr i wasanaethu eraill, a gwneud ei hun yn gaethwas, a dod aton ni fel person dynol – roedd yn amlwg i bawb ei fod yn ddyn.
Philipiaid 2:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydded gofal gan bob un ohonoch, nid am eich buddiannau eich hunain yn unig ond am fuddiannau pobl eraill hefyd. Amlygwch yn eich plith eich hunain yr agwedd meddwl honno sydd, yn wir, yn eiddo i chwi yng Nghrist Iesu. Er ei fod ef ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i'w gipio, ond fe'i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol.
Philipiaid 2:4-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Nac edrychwch bob un ar yr eiddoch eich hunain, eithr pob un ar yr eiddo eraill hefyd. Canys bydded ynoch y meddwl yma, yr hwn oedd hefyd yng Nghrist Iesu: Yr hwn, ac efe yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch â Duw; Eithr efe a’i dibrisiodd ei hun, gan gymryd arno agwedd gwas, ac a wnaed mewn cyffelybiaeth dynion