Philipiaid 2:21-24
Philipiaid 2:21-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Poeni amdanyn nhw eu hunain mae pawb arall, dim am beth sy’n bwysig i Iesu Grist. Ond mae Timotheus yn wahanol, mae wedi profi ei hun yn wahanol. Mae wedi gweithio gyda mi dros y newyddion da, fel mab yn helpu ei dad. Felly dw i’n gobeithio ei anfon atoch chi cyn gynted ag y ca i wybod beth sy’n mynd i ddigwydd i mi. Ac ydw, dw i wir yn hyderus y bydd yr Arglwydd yn caniatáu i minnau ddod i’ch gweld chi’n fuan!
Philipiaid 2:21-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
y maent oll â'u bryd ar eu dibenion eu hunain, nid ar ddibenion Iesu Grist. Gwyddoch fel y profwyd ei werth ef, gan iddo wasanaethu gyda mi, fel mab gyda'i dad, o blaid yr Efengyl. Dyma'r gŵr, ynteu, yr wyf yn gobeithio'i anfon, cyn gynted byth ag y caf weld sut y bydd hi arnaf. Ac yr wyf yn sicr, yn yr Arglwydd, y byddaf fi fy hun hefyd yn dod yn fuan.
Philipiaid 2:21-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys pawb sydd yn ceisio’r eiddynt eu hunain, nid yr eiddo Crist Iesu. Eithr y prawf ohono ef chwi a’i gwyddoch, mai fel plentyn gyda thad, y gwasanaethodd efe gyda myfi yn yr efengyl. Hwn gan hynny yr ydwyf yn gobeithio ei ddanfon, cyn gynted ag y gwelwyf yr hyn a fydd i mi. Ac y mae gennyf hyder yn yr Arglwydd y deuaf finnau hefyd ar fyrder atoch.