Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Philipiaid 2:19-30

Philipiaid 2:19-30 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dw i’n gobeithio anfon Timotheus atoch chi’n fuan, os bydd yr Arglwydd Iesu yn caniatáu hynny, er mwyn cael newyddion amdanoch chi fydd yn codi nghalon i. Does gen i neb tebyg i Timotheus. Mae’n teimlo’n union fel dw i’n teimlo – mae ganddo’r fath gonsýrn drosoch chi. Poeni amdanyn nhw eu hunain mae pawb arall, dim am beth sy’n bwysig i Iesu Grist. Ond mae Timotheus yn wahanol, mae wedi profi ei hun yn wahanol. Mae wedi gweithio gyda mi dros y newyddion da, fel mab yn helpu ei dad. Felly dw i’n gobeithio ei anfon atoch chi cyn gynted ag y ca i wybod beth sy’n mynd i ddigwydd i mi. Ac ydw, dw i wir yn hyderus y bydd yr Arglwydd yn caniatáu i minnau ddod i’ch gweld chi’n fuan! Ond yn y cyfamser dw i wedi bod yn teimlo bod rhaid i mi anfon Epaffroditws yn ôl atoch chi – brawd ffyddlon arall sy’n gydweithiwr ac yn gyd-filwr dros achos Iesu. Chi wnaeth ei anfon e i’m helpu i pan oeddwn i angen help. Mae wedi bod yn hiraethu amdanoch chi, ac yn poeni’n fawr eich bod wedi clywed ei fod wedi bod yn sâl. Mae’n wir, roedd e’n wirioneddol sâl. Bu bron iddo farw. Ond buodd Duw’n garedig ato – ac ata i hefyd. Petai e wedi marw byddwn i wedyn wedi cael fy llethu gan fwy fyth o dristwch. Dyna pam dw i mor awyddus i’w anfon yn ôl atoch chi. Dw i’n gwybod y byddwch chi mor llawen o’i weld, a fydd dim rhaid i mi boeni cymaint. Felly rhowch groeso brwd iddo. Dylid anrhydeddu pobl debyg iddo, achos bu bron iddo farw wrth wasanaethu’r Meseia. Mentrodd ei fywyd er mwyn fy helpu i, a gwneud ar eich rhan chi beth roeddech chi’n methu ei wneud eich hunain.

Philipiaid 2:19-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac yr wyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus ar fyrder atoch, fel y’m cysurer innau hefyd, wedi i mi wybod eich helynt chwi. Canys nid oes gennyf neb o gyffelyb feddwl, yr hwn a wir ofala am y pethau a berthyn i chwi. Canys pawb sydd yn ceisio’r eiddynt eu hunain, nid yr eiddo Crist Iesu. Eithr y prawf ohono ef chwi a’i gwyddoch, mai fel plentyn gyda thad, y gwasanaethodd efe gyda myfi yn yr efengyl. Hwn gan hynny yr ydwyf yn gobeithio ei ddanfon, cyn gynted ag y gwelwyf yr hyn a fydd i mi. Ac y mae gennyf hyder yn yr Arglwydd y deuaf finnau hefyd ar fyrder atoch. Eithr mi a dybiais yn angenrheidiol ddanfon atoch Epaffroditus, fy mrawd, a’m cyd-weithiwr, a’m cyd-filwr, ond eich cennad chwi, a gweinidog i’m cyfreidiau innau. Canys yr oedd efe yn hiraethu amdanoch oll, ac yn athrist iawn, oblegid i chwi glywed ei fod ef yn glaf. Canys yn wir efe a fu glaf yn agos i angau: ond Duw a drugarhaodd wrtho ef; ac nid wrtho ef yn unig, ond wrthyf finnau hefyd, rhag cael ohonof dristwch ar dristwch. Yn fwy diwyd gan hynny yr anfonais i ef, fel gwedi i chwi ei weled ef drachefn, y byddech chwi lawen, ac y byddwn innau yn llai fy nhristwch. Derbyniwch ef gan hynny yn yr Arglwydd gyda phob llawenydd; a’r cyfryw rai gwnewch gyfrif ohonynt: Canys oblegid gwaith Crist y bu efe yn agos i angau, ac y bu diddarbod am ei einioes, fel y cyflawnai efe eich diffyg chwi o’ch gwasanaeth tuag ataf fi.