Philipiaid 2:17-23
Philipiaid 2:17-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’n bosib iawn y bydda i’n marw fel merthyr, a’m gwaed i’n cael ei dywallt fel diodoffrwm ar aberth y gwasanaeth ffyddlon dych chi’n ei gyflwyno i Dduw. Os mai dyna sydd i ddigwydd, dw i’n hapus, ac am rannu fy llawenydd gyda chi. A dylech chithau hefyd fod yn hapus, i mi gael rhannu eich llawenydd chi. Dw i’n gobeithio anfon Timotheus atoch chi’n fuan, os bydd yr Arglwydd Iesu yn caniatáu hynny, er mwyn cael newyddion amdanoch chi fydd yn codi nghalon i. Does gen i neb tebyg i Timotheus. Mae’n teimlo’n union fel dw i’n teimlo – mae ganddo’r fath gonsýrn drosoch chi. Poeni amdanyn nhw eu hunain mae pawb arall, dim am beth sy’n bwysig i Iesu Grist. Ond mae Timotheus yn wahanol, mae wedi profi ei hun yn wahanol. Mae wedi gweithio gyda mi dros y newyddion da, fel mab yn helpu ei dad. Felly dw i’n gobeithio ei anfon atoch chi cyn gynted ag y ca i wybod beth sy’n mynd i ddigwydd i mi.
Philipiaid 2:17-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond os tywelltir fy mywyd i yn ddiodoffrwm ac yn aberth er mwyn eich ffydd chwi, yr wyf yn llawen, ac yn cydlawenhau â chwi i gyd. Yn yr un modd byddwch chwithau'n llawen, a chydlawenhewch â mi. Ond yr wyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus atoch ar fyrder, er mwyn imi gael fy nghalonogi o wybod am eich amgylchiadau chwi. Oherwydd nid oes gennyf neb o gyffelyb ysbryd iddo ef, i gymryd gwir ofal am eich buddiannau chwi; y maent oll â'u bryd ar eu dibenion eu hunain, nid ar ddibenion Iesu Grist. Gwyddoch fel y profwyd ei werth ef, gan iddo wasanaethu gyda mi, fel mab gyda'i dad, o blaid yr Efengyl. Dyma'r gŵr, ynteu, yr wyf yn gobeithio'i anfon, cyn gynted byth ag y caf weld sut y bydd hi arnaf.
Philipiaid 2:17-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ie, a phe’m hoffrymid ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, llawenhau yr wyf, a chydlawenhau â chwi oll. Oblegid yr un peth hefyd byddwch chwithau lawen, a chydlawenhewch â minnau. Ac yr wyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus ar fyrder atoch, fel y’m cysurer innau hefyd, wedi i mi wybod eich helynt chwi. Canys nid oes gennyf neb o gyffelyb feddwl, yr hwn a wir ofala am y pethau a berthyn i chwi. Canys pawb sydd yn ceisio’r eiddynt eu hunain, nid yr eiddo Crist Iesu. Eithr y prawf ohono ef chwi a’i gwyddoch, mai fel plentyn gyda thad, y gwasanaethodd efe gyda myfi yn yr efengyl. Hwn gan hynny yr ydwyf yn gobeithio ei ddanfon, cyn gynted ag y gwelwyf yr hyn a fydd i mi.