Philipiaid 2:14-18
Philipiaid 2:14-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gwnewch bopeth heb gwyno a ffraeo, er mwyn i chi dyfu fel plant i Dduw, yn byw bywydau glân a di-fai yng nghanol cymdeithas o bobl droëdig ac ystyfnig. Byddwch fel sêr yn disgleirio yn yr awyr wrth i chi rannu’r neges am y bywyd newydd gydag eraill. Wedyn pan ddaw y Meseia yn ôl, bydda i’n gallu bod yn falch ohonoch chi. Bydda i’n gwybod na fuodd yr holl redeg a’r gwaith caled yn wastraff amser. Mae’n bosib iawn y bydda i’n marw fel merthyr, a’m gwaed i’n cael ei dywallt fel diodoffrwm ar aberth y gwasanaeth ffyddlon dych chi’n ei gyflwyno i Dduw. Os mai dyna sydd i ddigwydd, dw i’n hapus, ac am rannu fy llawenydd gyda chi. A dylech chithau hefyd fod yn hapus, i mi gael rhannu eich llawenydd chi.
Philipiaid 2:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwnewch bopeth heb rwgnach nac ymryson; byddwch yn ddi-fai a diddrwg, yn blant di-nam i Dduw yng nghanol cenhedlaeth wyrgam a gwrthnysig, yn disgleirio yn eu plith fel goleuadau yn y byd, yn cyflwyno gair y bywyd. Felly byddwch yn destun ymffrost i mi yn Nydd Crist, na fu imi redeg y ras yn ofer na llafurio yn ofer. Ond os tywelltir fy mywyd i yn ddiodoffrwm ac yn aberth er mwyn eich ffydd chwi, yr wyf yn llawen, ac yn cydlawenhau â chwi i gyd. Yn yr un modd byddwch chwithau'n llawen, a chydlawenhewch â mi.
Philipiaid 2:14-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwnewch bob dim heb rwgnach ac ymddadlau; Fel y byddoch ddiargyhoedd a diniwed, yn blant difeius i Dduw, yng nghanol cenhedlaeth ddrygionus a throfaus, ymhlith y rhai yr ydych yn disgleirio megis goleuadau yn y byd; Yn cynnal gair y bywyd; er gorfoledd i mi yn nydd Crist, na redais yn ofer, ac na chymerais boen yn ofer. Ie, a phe’m hoffrymid ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, llawenhau yr wyf, a chydlawenhau â chwi oll. Oblegid yr un peth hefyd byddwch chwithau lawen, a chydlawenhewch â minnau.