Philipiaid 2:13-15
Philipiaid 2:13-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae Duw ar waith yn eich bywydau chi, yn creu’r awydd ynoch chi ac yn eich galluogi chi i wneud beth sy’n ei blesio fe. Gwnewch bopeth heb gwyno a ffraeo, er mwyn i chi dyfu fel plant i Dduw, yn byw bywydau glân a di-fai yng nghanol cymdeithas o bobl droëdig ac ystyfnig. Byddwch fel sêr yn disgleirio yn yr awyr
Philipiaid 2:13-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
oblegid Duw yw'r un sydd yn gweithio ynoch i beri ichwi ewyllysio a gweithredu i'w amcanion daionus ef. Gwnewch bopeth heb rwgnach nac ymryson; byddwch yn ddi-fai a diddrwg, yn blant di-nam i Dduw yng nghanol cenhedlaeth wyrgam a gwrthnysig, yn disgleirio yn eu plith fel goleuadau yn y byd
Philipiaid 2:13-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys Duw yw’r hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o’i ewyllys da ef. Gwnewch bob dim heb rwgnach ac ymddadlau; Fel y byddoch ddiargyhoedd a diniwed, yn blant difeius i Dduw, yng nghanol cenhedlaeth ddrygionus a throfaus, ymhlith y rhai yr ydych yn disgleirio megis goleuadau yn y byd