Philipiaid 2:12-13
Philipiaid 2:12-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly, ffrindiau annwyl, fel roeddech chi’n ufudd pan oeddwn i acw gyda chi, mae’n bwysicach fyth eich bod chi’n ufudd pan dw i’n absennol. Gyda pharch a defosiwn i Dduw daliwch ati i weithio ar eich iechyd ysbrydol fel cymuned. Mae Duw ar waith yn eich bywydau chi, yn creu’r awydd ynoch chi ac yn eich galluogi chi i wneud beth sy’n ei blesio fe.
Philipiaid 2:12-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gan hynny, fy nghyfeillion annwyl, fel y buoch bob amser yn ufudd, felly yn awr, nid yn unig fel pe bawn yn bresennol, ond yn fwy o lawer gan fy mod yn absennol, gweithredwch, mewn ofn a dychryn, yr iachawdwriaeth sy'n eiddo ichwi; oblegid Duw yw'r un sydd yn gweithio ynoch i beri ichwi ewyllysio a gweithredu i'w amcanion daionus ef.
Philipiaid 2:12-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny, fy anwylyd, megis bob amser yr ufuddhasoch, nid fel yn fy ngŵydd yn unig, eithr yr awron yn fwy o lawer yn fy absen, gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain trwy ofn a dychryn. Canys Duw yw’r hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o’i ewyllys da ef.