Philipiaid 2:1-2
Philipiaid 2:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Os ydy perthyn i’r Meseia yn anogaeth o unrhyw fath i chi; os ydy ei gariad o unrhyw gysur i chi; os ydy’r Ysbryd yn eich clymu chi’n un, ac yn eich gwneud yn llawn tosturi ac yn garedig – yna gwnewch fi’n wirioneddol hapus drwy rannu’r un agwedd meddwl, dangos cariad at eich gilydd, a bod yn un o ran ysbryd a phwrpas.
Philipiaid 2:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly, os oes gennych yng Nghrist unrhyw symbyliad, unrhyw apêl o du cariad, unrhyw gymdeithas trwy'r Ysbryd, os oes unrhyw gynhesrwydd a thosturi, cyflawnwch fy llawenydd trwy fod o'r un meddwl, a'r un cariad gennych at eich gilydd, yn unfryd ac yn unfarn.
Philipiaid 2:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Od oes gan hynny ddim diddanwch yng Nghrist, od oes dim cysur cariad, od oes dim cymdeithas yr Ysbryd, od oes dim ymysgaroedd a thosturiaethau, Cyflawnwch fy llawenydd; fel y byddoch yn meddwl yr un peth, a’r un cariad gennych, yn gytûn, yn synied yr un peth.