Philipiaid 1:9-14
Philipiaid 1:9-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yr hyn dw i’n ei weddïo drosoch chi ydy y bydd eich cariad chi’n mynd o nerth i nerth, ac y byddwch chi’n tyfu yn eich dealltwriaeth o’r gwirionedd a’ch gallu i benderfynu beth sy’n iawn. Dw i eisiau i chi ddewis y peth gorau i’w wneud bob amser, a byw yn gwbl onest a di-fai nes i’r Meseia ddod yn ôl. Bydd hynny’n dangos eich bod chi wedi’ch achub! Bydd yn dangos canlyniad gwaith Iesu Grist yn eich bywydau, ac wedyn bydd Duw yn cael ei fawrygu a’i foli. Dw i eisiau i chi wybod, frodyr a chwiorydd, fod beth sydd wedi digwydd i mi wedi troi’n gyfle newydd i rannu’r newyddion da. Mae holl filwyr y Gwarchodlu a phawb arall yma yn gwybod mod i yn y carchar am fy mod i’n gweithio i’r Meseia. Does neb yma sydd ddim yn gwybod hynny! Ac mae’r ffaith fy mod i yn y carchar hefyd wedi helpu’r rhai sy’n credu i fod yn fwy hyderus – does ganddyn nhw ddim ofn rhannu neges Duw.
Philipiaid 1:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyma fy ngweddi, ar i'ch cariad gynyddu fwyfwy eto mewn gwybodaeth a phob dirnadaeth, er mwyn ichwi allu cymeradwyo'r hyn sy'n rhagori, a bod yn ddidwyll a didramgwydd erbyn Dydd Crist, yn gyflawn o ffrwyth y cyfiawnder sy'n dod trwy Iesu Grist, er gogoniant a mawl i Dduw. Yr wyf am i chwi wybod, gyfeillion, fod y pethau a ddigwyddodd i mi wedi troi, yn hytrach, yn foddion i hyrwyddo'r Efengyl, yn gymaint â'i bod wedi dod yn hysbys, trwy'r holl Praetoriwm ac i bawb arall, mai er mwyn Crist yr wyf yng ngharchar, a bod y mwyafrif o'r cydgredinwyr, oherwydd i mi gael fy ngharcharu, wedi dod yn hyderus yn yr Arglwydd, ac yn fwy hy o lawer i lefaru'r gair yn ddiofn.
Philipiaid 1:9-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hyn yr wyf yn ei weddïo, ar amlhau o’ch cariad chwi eto fwyfwy mewn gwybodaeth a phob synnwyr; Fel y profoch y pethau sydd â gwahaniaeth rhyngddynt; fel y byddoch bur a didramgwydd hyd ddydd Crist; Wedi eich cyflawni â ffrwythau cyfiawnder, y rhai sydd trwy Iesu Grist, er gogoniant a moliant i Dduw. Ac mi a ewyllysiwn i chwi wybod, frodyr, am y pethau a ddigwyddodd i mi, ddyfod ohonynt yn hytrach er llwyddiant i’r efengyl; Yn gymaint â bod fy rhwymau i yng Nghrist yn eglur yn yr holl lys, ac ym mhob lle arall; Ac i lawer o’r brodyr yn yr Arglwydd fyned yn hyderus wrth fy rhwymau i, a bod yn hyach o lawer i draethu’r gair yn ddi-ofn.