Philipiaid 1:22-25
Philipiaid 1:22-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond wedyn ar y llaw arall, os ca i fyw bydda i’n gallu dal ati i weithio dros y Meseia Iesu. Beth fyddwn i’n ei ddewis fy hun? Dw i ddim yn gwybod! Dw i’n cael fy nhynnu’r naill ffordd a’r llall: Dw i’n dyheu am gael gadael y byd yma i fod gyda’r Meseia am byth – dyna’n sicr ydy’r peth gorau allai ddigwydd i mi, o bell ffordd! Ond mae’n well o lawer i chi os ca i aros yn fyw. O feddwl am y peth, dw i’n reit siŵr y bydda i’n aros, i’ch helpu chi i dyfu a phrofi’r llawenydd sydd i’w gael o gredu yn y Meseia.
Philipiaid 1:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond os wyf i barhau i fyw yn y cnawd, bydd hynny'n golygu y caf ffrwyth o'm llafur. Eto, ni wn beth i'w ddewis. Y mae'n gyfyng arnaf o'r ddeutu; y mae arnaf awydd ymadael a bod gyda Christ, gan fod hynny'n llawer iawn gwell; ond y mae aros yn fy nghnawd yn fwy angenrheidiol er eich mwyn chwi. Rwy'n gwybod hyn i sicrwydd: aros a wnaf, a phara i aros gyda chwi oll, i hyrwyddo eich cynnydd a'ch llawenydd yn y ffydd
Philipiaid 1:22-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac os byw fyddaf yn y cnawd, hyn yw ffrwyth fy llafur: a pha beth a ddewisaf, nis gwn. Canys y mae’n gyfyng arnaf o’r ddeutu, gan fod gennyf chwant i’m datod, ac i fod gyda Christ; canys llawer iawn gwell ydyw. Eithr aros yn y cnawd sydd fwy angenrheidiol o’ch plegid chwi. A chennyf yr hyder hwn, yr wyf yn gwybod yr arhosaf ac y cyd-drigaf gyda chwi oll, er cynnydd i chwi, a llawenydd y ffydd