Philipiaid 1:19-22
Philipiaid 1:19-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dych chi wrthi’n gweddïo, ac mae Ysbryd Iesu y Meseia yn fy nghynnal i. Felly dw i’n gwybod y bydda i’n cael fy rhyddhau yn y diwedd. Dw i’n edrych ymlaen at y dyfodol yn frwd, ac yn gobeithio na wna i ddim byd i siomi fy Arglwydd. Dw i eisiau bod yn ddewr bob amser, ac yn arbennig felly nawr, fel bod y Meseia yn cael ei fawrygu drwy bopeth dw i’n ei wneud – hyd yn oed petai rhaid i mi farw yma! I mi, y Meseia ydy holl ystyr a phwrpas byw, a dw i’n ennill hyd yn oed os bydda i’n cael fy lladd! Ond wedyn ar y llaw arall, os ca i fyw bydda i’n gallu dal ati i weithio dros y Meseia Iesu. Beth fyddwn i’n ei ddewis fy hun? Dw i ddim yn gwybod!
Philipiaid 1:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
oherwydd mi wn mai canlyniad hyn, ar bwys eich gweddi chwi a chymorth Ysbryd Iesu Grist, fydd fy ngwaredigaeth. Am hyn yr wyf yn disgwyl yn eiddgar, gan obeithio na chaf fy nghywilyddio mewn dim, ond y bydd Crist, yn awr fel erioed, trwy fy ngwroldeb i, yn cael ei fawrygu yn fy nghorff i, p'run bynnag ai trwy fy mywyd ai trwy fy marwolaeth. Oherwydd, i mi, Crist yw byw, ac elw yw marw. Ond os wyf i barhau i fyw yn y cnawd, bydd hynny'n golygu y caf ffrwyth o'm llafur. Eto, ni wn beth i'w ddewis.
Philipiaid 1:19-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys mi a wn y digwydd hyn i mi er iachawdwriaeth, trwy eich gweddi chwi, a chynhorthwy Ysbryd Iesu Grist, Yn ôl fy awyddfryd a’m gobaith, na’m gwaradwyddir mewn dim, eithr mewn pob hyder, fel bob amser, felly yr awron hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorff i, pa un bynnag ai trwy fywyd, ai trwy farwolaeth. Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw. Ac os byw fyddaf yn y cnawd, hyn yw ffrwyth fy llafur: a pha beth a ddewisaf, nis gwn.