Philipiaid 1:16-19
Philipiaid 1:16-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Cariad sy’n eu hysgogi nhw, ac maen nhw’n gwybod mod i yn y carchar i amddiffyn y newyddion da. Tynnu sylw atyn nhw eu hunain mae’r grŵp cyntaf – dŷn nhw ddim o ddifri. Yr unig beth maen nhw eisiau ydy gwneud pethau’n anodd i mi tra dw i yn y carchar. Ond pa wahaniaeth? Beth bynnag ydy eu rhesymau nhw, y peth pwysig ydy bod y neges am y Meseia yn cael ei chyhoeddi! Mae hynny’n fy ngwneud i’n hapus. A hapus fydda i hefyd! Dych chi wrthi’n gweddïo, ac mae Ysbryd Iesu y Meseia yn fy nghynnal i. Felly dw i’n gwybod y bydda i’n cael fy rhyddhau yn y diwedd.
Philipiaid 1:16-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O gariad y mae'r rhain yn cyhoeddi Crist, gan wybod mai i amddiffyn yr Efengyl y gosodwyd fi yma, ond y mae'r lleill yn gwneud hynny o gymhellion hunanol ac amhur, gan feddwl peri gofid imi yng ngharchar. Ond pa waeth? Y naill ffordd neu'r llall, p'run ai mewn rhith ynteu mewn gwirionedd, y mae Crist yn cael ei gyhoeddi, ac yr wyf yn gorfoleddu yn hyn. Ie, a gorfoleddu a wnaf hefyd, oherwydd mi wn mai canlyniad hyn, ar bwys eich gweddi chwi a chymorth Ysbryd Iesu Grist, fydd fy ngwaredigaeth.
Philipiaid 1:16-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y naill sydd yn pregethu Crist o gynnen, nid yn bur, gan feddwl dwyn mwy o flinder i’m rhwymau i: A’r lleill o gariad, gan wybod mai er amddiffyn yr efengyl y’m gosodwyd. Beth er hynny? eto ym mhob modd, pa un bynnag ai mewn rhith, ai mewn gwirionedd, yr ydys yn pregethu Crist: ac yn hyn yr ydwyf fi yn llawen, ie, a llawen fyddaf. Canys mi a wn y digwydd hyn i mi er iachawdwriaeth, trwy eich gweddi chwi, a chynhorthwy Ysbryd Iesu Grist