Philipiaid 1:15-23
Philipiaid 1:15-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’n wir mai cenfigen a chystadleuaeth sy’n ysgogi rhai i gyhoeddi’r neges am y Meseia, ond mae eraill sy’n gwneud hynny am y rhesymau iawn. Cariad sy’n eu hysgogi nhw, ac maen nhw’n gwybod mod i yn y carchar i amddiffyn y newyddion da. Tynnu sylw atyn nhw eu hunain mae’r grŵp cyntaf – dŷn nhw ddim o ddifri. Yr unig beth maen nhw eisiau ydy gwneud pethau’n anodd i mi tra dw i yn y carchar. Ond pa wahaniaeth? Beth bynnag ydy eu rhesymau nhw, y peth pwysig ydy bod y neges am y Meseia yn cael ei chyhoeddi! Mae hynny’n fy ngwneud i’n hapus. A hapus fydda i hefyd! Dych chi wrthi’n gweddïo, ac mae Ysbryd Iesu y Meseia yn fy nghynnal i. Felly dw i’n gwybod y bydda i’n cael fy rhyddhau yn y diwedd. Dw i’n edrych ymlaen at y dyfodol yn frwd, ac yn gobeithio na wna i ddim byd i siomi fy Arglwydd. Dw i eisiau bod yn ddewr bob amser, ac yn arbennig felly nawr, fel bod y Meseia yn cael ei fawrygu drwy bopeth dw i’n ei wneud – hyd yn oed petai rhaid i mi farw yma! I mi, y Meseia ydy holl ystyr a phwrpas byw, a dw i’n ennill hyd yn oed os bydda i’n cael fy lladd! Ond wedyn ar y llaw arall, os ca i fyw bydda i’n gallu dal ati i weithio dros y Meseia Iesu. Beth fyddwn i’n ei ddewis fy hun? Dw i ddim yn gwybod! Dw i’n cael fy nhynnu’r naill ffordd a’r llall: Dw i’n dyheu am gael gadael y byd yma i fod gyda’r Meseia am byth – dyna’n sicr ydy’r peth gorau allai ddigwydd i mi, o bell ffordd!
Philipiaid 1:15-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae'n wir fod rhai yn pregethu Crist o genfigen a chynnen, ac eraill o ewyllys da. O gariad y mae'r rhain yn cyhoeddi Crist, gan wybod mai i amddiffyn yr Efengyl y gosodwyd fi yma, ond y mae'r lleill yn gwneud hynny o gymhellion hunanol ac amhur, gan feddwl peri gofid imi yng ngharchar. Ond pa waeth? Y naill ffordd neu'r llall, p'run ai mewn rhith ynteu mewn gwirionedd, y mae Crist yn cael ei gyhoeddi, ac yr wyf yn gorfoleddu yn hyn. Ie, a gorfoleddu a wnaf hefyd, oherwydd mi wn mai canlyniad hyn, ar bwys eich gweddi chwi a chymorth Ysbryd Iesu Grist, fydd fy ngwaredigaeth. Am hyn yr wyf yn disgwyl yn eiddgar, gan obeithio na chaf fy nghywilyddio mewn dim, ond y bydd Crist, yn awr fel erioed, trwy fy ngwroldeb i, yn cael ei fawrygu yn fy nghorff i, p'run bynnag ai trwy fy mywyd ai trwy fy marwolaeth. Oherwydd, i mi, Crist yw byw, ac elw yw marw. Ond os wyf i barhau i fyw yn y cnawd, bydd hynny'n golygu y caf ffrwyth o'm llafur. Eto, ni wn beth i'w ddewis. Y mae'n gyfyng arnaf o'r ddeutu; y mae arnaf awydd ymadael a bod gyda Christ, gan fod hynny'n llawer iawn gwell
Philipiaid 1:15-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y mae rhai yn wir yn pregethu Crist trwy genfigen ac ymryson; a rhai hefyd o ewyllys da. Y naill sydd yn pregethu Crist o gynnen, nid yn bur, gan feddwl dwyn mwy o flinder i’m rhwymau i: A’r lleill o gariad, gan wybod mai er amddiffyn yr efengyl y’m gosodwyd. Beth er hynny? eto ym mhob modd, pa un bynnag ai mewn rhith, ai mewn gwirionedd, yr ydys yn pregethu Crist: ac yn hyn yr ydwyf fi yn llawen, ie, a llawen fyddaf. Canys mi a wn y digwydd hyn i mi er iachawdwriaeth, trwy eich gweddi chwi, a chynhorthwy Ysbryd Iesu Grist, Yn ôl fy awyddfryd a’m gobaith, na’m gwaradwyddir mewn dim, eithr mewn pob hyder, fel bob amser, felly yr awron hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorff i, pa un bynnag ai trwy fywyd, ai trwy farwolaeth. Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw. Ac os byw fyddaf yn y cnawd, hyn yw ffrwyth fy llafur: a pha beth a ddewisaf, nis gwn. Canys y mae’n gyfyng arnaf o’r ddeutu, gan fod gennyf chwant i’m datod, ac i fod gyda Christ; canys llawer iawn gwell ydyw.